“Beth allwn ni chwarae?”

Wrth i ni barhau i dreulio mwy o amser yn ein cartref ac oddi wrth ein teuluoedd a ffrindiau dros benwythnos g?yl y banc, beth am roi tro ar rai o’n syniadau chwarae diweddaraf?

I helpu i ysbrydoli dy blant – a’r teulu cyfan – rydym wedi roi at ei gilydd rhestr o 50 syniad i’w chwarae gartref:

  1. Argraffu a phaentio gyda swigod
  2. Helfa pryfetach
  3. Adeiladu gwesty pryfetach
  4. Adeiladu t?r mawr tal gyda phac o gardiau
  5. Adeiladu dy greadigaeth dy hun gyda blociau neu lego
  6. Gwersylla dan do neu yn yr ardd
  7. Gemau cardiau – snap, parau
  8. Charades / Give us a clue
  9. Dal dy gysgod
  10. Lliwio rhai o’n cartwnau
  11. Creu ffilm
  12. Creu pypedau cysgod
  13. Addasu hen ddillad i greu gwisgoedd newydd
  14. Gemau tynnu llun – ‘Pictionary’, gêm OXO, hangman
  15. Hwyl gyda balwnau – cadw’r bal?n oddi ar lawr, rasys gyda balwnau rhwng eich coesau, statig ar dy wallt, ceisio ei chael i lynu i’r wal gan ddefnyddio dim ond trydan statig
  16. Bod yn greadigol gyda thiwbiau papur toiled - creu anifeiliaid, rocedi
  17. Mynd ar helfa eirth dan do
  18. Rhoi tro ar jyglo
  19. Jenga (bydd yn greadigol - defnyddia focsys ‘Tupperware’, blychau gwag)
  20. Creu dalen-nodyn (bookmarker) ar gyfer y llyfr stori newydd – Hwyl yn yr ardd
  21. Creu hamog gyda chynfas gwely a bwrdd
  22. Creu trac rasio gyda thâp masgio
  23. Creu llyfr lloffion
  24. Creu t?r o esgidiau
  25. Creu swigod
  26. Creu ‘radio’ tuniau a chortyn
  27. Creu dillad ar gyfer doli neu dedi bêr
  28. Creu gwe dal breuddwydion
  29. Creu lluniau argraffu gyda’r bysedd neu’r dwylo
  30. Creu pethau dweud ffortiwn o bapur
  31. Creu breichledi cyfeillgarwch
  32. Creu offerynnau cerdd gyda hen eitemau o’r t?
  33. Creu mygydau a chlogynnau arch-arwyr gyda hen gynfasau neu ddefnydd
  34. Gemau cofio / gemau cysylltu geiriau
  35. Cyfnewid cadeiriau cerddorol
  36. Delwau cerddorol
  37. Paentio wynebau eich gilydd
  38. Pasio’r parsel
  39. Rhoi cynffon ar yr asyn
  40. Chwarae tenis gyda bal?n / sanau wedi eu rholio’n bêl a phlatiau papur neu ddwylo
  41. Esgus bod yn anifeiliaid a chynnal gorymdaith s? neu jyngl (cerdded fel eliffant neu fwnci neu hwyaden neu ...)
  42. Creu g?yl gerddorol ar gyfer y teulu
  43. Creu perfformiad pypedau
  44. Sardines
  45. Bowlio deg gyda hen boteli pop / sudd plastig
  46. Defnyddio tâp masgio i greu gemau ar lawr - nadroedd ac ysgolion, cwrs rhwystrau
  47. Defnyddio dy sanau i greu lluniau doniol neu i sillafu geiriau
  48. Argraffu gyda llysiau
  49. Pwy ydw i? Gêm ddyfalu (‘Post-it’ gydag enw person enwog ar dy dalcen)
  50. Gwe corryn / pry copyn gyda gwlân neu gortyn - ceisiwch ddringo trwyddo!

Ymunwch yn yr hwyl

Gellir argraffu a rhannu’r 50 syniad chwarae dan do – faint all dy deulu eu cwblhau dros benwythnos g?yl y banc?

Hefyd, rhanna dy syniadau chwarae gyda ni drwy ein tagio ar y cyfryngau cymdeithasol – FacebookInstagram a Twitter – defnyddia’r hashnod #CoronaPlay neu #PlayAtHome.

Oeddet ti’n gwybod bo ganddo ni restr arall o 35 syniad chwarae dan do? Rhowch dro ar rheini hefyd!

 

Amser sgrîn

Erthygl flaenorol
Yn ôl i’r holl erthyglau

Cefnogi lles plant trwy chwarae

Erthygl nesaf
English