Amdanom ni

Ymgyrchoedd

Rydym yn hyrwyddo Plentyndod Chwareus trwy gydol y flwyddyn i rieni, gofalwyr a phobl sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd. Byddwn hefyd, o dro i dro, yn cynnal ymgyrchoedd byr sy’n canolbwyntio ar bwnc neu fater penodol sy’n ymwneud â hawl ac angen plant i chwarae yng Nghymru.

Er bod yr ymgyrchoedd byr hyn wedi gorffen, mae’r pynciau’n dal i fod yn berthnasol ac amserol – ac rydym yn dal i geisio mynd i’r afael â’r materion hyn er mwyn gwella cyfleoedd i blant o bob oed chwarae a chymdeithasu.

Mae’r ymgyrchoedd hyn yn cynnig cyfle gwerthfawr i:

  • gynyddu ymwybyddiaeth am bwysigrwydd chwarae i bob plentyn
  • hyrwyddo hawl plant i chwarae
  • atgoffa rhieni ac oedolion eraill am roi digon o gyfleoedd i blant ac arddegwyr o bob oed i chwarae a chymdeithasu adref ac allan yn eu cymdogaethau
  • tynnu sylw mwy o bobl at Plentyndod Chwareus.

Mae ein hymgyrchoedd diweddaraf yn cynnwys:

Ymgyrch

Chwarae am y nesaf peth i ddim

 

Fe wnaeth yr ymgyrch hon hyrwyddo buddiannau cyfleoedd rhad neu ddi-dâl i chwarae ar gyfer plant o bob oed – dros wyliau’r haf a’r tu hwnt.

Mae’n cydnabod yr effaith dwfn y mae’r argyfwng costau byw yn ei gael ar deuluoedd ac mae’n canolbwyntio ar yr anturiaethau chwarae bob dydd rhad neu ddi-dâl y gall plant eu mwynhau adref, mewn lleoliadau chwarae, ac yn eu cymunedau.

Mae’r ffilm ‘Chwarae am y nesaf peth i ddim’ yn cynnwys plant ar draws Cymru yn derbyn blwch o eitemau cartref bob dydd i ysbrydoli eu chwarae. Y nod yw dangos syniadau chwarae syml sydd ddim yn cynnwys gweithgareddau drud, teganau costus, na theithiau i fannau pell yr haf yma, gan fod y plant yn defnyddio eu creadigrwydd greddfol a’u hymdeimlad o hwyl i ryngweithio ac ysgogi eu chwarae eu hunain, heb gyfranogiad oedolyn.

Lansiwyd y ffilm ar Ddiwrnod Chwarae 2023 – y diwrnod cenedlaethol ar gyfer chwarae yn y DU.

Ymgyrch

Amser i chwarae

Fe wnaeth ‘Byddai’n well gen i fod yn chwarae’ – ein harolwg newydd, ganfod bod plant yng Nghymru eisiau chwarae mwy ond bod cael neb i chwarae gyda nhw, TikTok a mannau chwarae difflach yn gallu eu hatal.

Er mwyn mynd i’r afael â hyn, roeddem yn awyddus i annog a chefnogi rhieni a gofalwyr i ysbrydoli ac ysgogi mwy o gyfleoedd i’w plant chwarae – dros wyliau’r haf a thu hwnt – er gwaethaf rhwystrau cymdeithasol.

Gyda bron i 70% o blant yn dweud bod chwarae’n gwneud iddyn nhw deimlo’n hapus a chyffrous, fe wnaethom alw ar rieni, gofalwyr a chymunedau ledled Cymru i roi mwy o Amser i Chwarae i blant – adref ac allan yn eu cymdogaethau gyda ffrindiau

Pam mwy o Amser i Chwarae?

Fe wnaethom ofyn i 500 o rieni gyda phlant dan 15 oed a 500 o blant 5 i 15 oed yng Nghymru beth oedd eu barn am chwarae a dyma beth ddywedon nhw wrthym ni:

  • Dywedodd y plant a holwyd yr hoffent chwarae mwy (byddai dros 60% yn hoffi chwarae mwy na phum gwaith yr wythnos), ond eto mae dros 30% yn dweud bod sgrolio trwy TikTok a gwylio fideos ar YouTube yn eu hatal rhag gwneud hynny.
  • Mae 91% o rieni yn dweud bod chwarae’n cael effaith positif ar iechyd meddwl eu plant, ac mae bron i 70% o blant yn dweud bod chwarae’n gwneud iddyn nhw deimlo’n hapus a chyffrous. Ond eto, mae dros 20% o blant yn dweud bod cael neb i chwarae gyda nhw’n eu hatal rhag chwarae.
  • Mae 90% o blant yn dweud eu bod yn gyffredinol hapus gyda’r mannau ble maent yn chwarae, o chwarae’r tu allan ym myd natur i chwarae ar y stryd neu ar y palmant, i chwarae mewn canolfan chwarae fel clwb ar ôl ysgol, neu ar iard yr ysgol, i barc sglefrfyrddio, neu adref. Fodd bynnag, mae 10% yn dweud na allan nhw wneud unrhyw un o’r pethau yr hoffent eu gwneud yn y mannau hyn.

Yr hyn ddywedodd y plant wrthym ni

Mae plant wedi dweud wrthym sut mae chwarae’n gwneud iddyn nhw deimlo, fel Aneurin York o’r Barri, sy’n 10 oed, ddywedodd:

‘Dwi wrth fy modd yn chwarae achos mae’n fy helpu yn fy mywyd gyda stwff ac mae’n fy helpu i wybod sut dwi’n teimlo. Mae hefyd yn dangos i bobl sut i fynegi eu teimladau heb orfod eu cuddio oddi wrth unrhyw un’.

Wrth siarad am pam y byddai’n well ganddi fod yn chwarae, dywedodd Summer Pritchard, sy’n 13 oed, o Dreherbert:

‘Mae chwarae’n gwneud imi deimlo’n rhydd. Ac os nad oedd gen i chwarae i droi ato, fe fyddwn i yn fy ystafell yn gwylio TikTok ar fy ffôn’

Ymgyrch

“Pan o’n i dy oed di”

Fe wnaeth ymgyrch ‘Pan o’n i dy oed di’ herio rhagdybiaethau am ymddygiad arddegwyr mewn mannau cyhoeddus. Roedden ni eisiau annog pawb i fod yn fwy goddefgar o arddegwyr mewn mannau a rennir, achos, fel mae’n digwydd, dydyn ni ddim mor wahanol â hynny wedi’r cwbwl…

Dewch ’mlaen, meddyliwch am eich bywyd chi yn eich arddegau. Efallai bod llai o dechnoleg a bod y ffasiwn yn wahanol, ond efallai y cewch eich synnu i sylweddoli pa mor debyg oedd eich profiadau chi i rai arddegwyr heddiw.

Fe wnaeth arddegwyr o bob cwr o Gymru rannu eu profiadau o chwarae a chymdeithasu gyda’u ffrindiau, ac fe wnaethon ni annog oedolion i feddwl am y tebygrwydd rhyngddynt.

English