I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Llyfr y Plant, mae Chwarae Cymru wedi lansio llyfr stori newydd am hawl plant i chwarae, sydd wedi ei ysgrifennu ar gyfer plant ysgol gynradd a’u rhieni.  

Mae Hwyl yn yr ardd yn ein hatgoffa sut y gall yr holl oedolion ym mywydau plant un ai gefnogi neu rwystro’r hawl i chwarae. Mae’n crynhoi pwysigrwydd cymunedau cefnogol a goddefgar wrth helpu plant i wireddu eu hawl i chwarae.

Sut alla i gael copi o Hwyl yn yr ardd? 

Os hoffech chi dderbyn copi yn rhad ac am ddim mae’n rhaid i chi: 

  1. Fod yn byw neu’n gweithio yng Nghymru
  2. Cofrestru i’n rhestr bostio (sgroliwch i waelod y dudalen)
  3. Rannu eich manylion, gan gynnwys cyfeiriad postio, trwy ebost

Sut y datblygwyd Hwyl yn yr ardd

Gweithiodd Chwarae Cymru gyda storïwr, cartwnydd a phlant blwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd Charles Williams yng Nghaerleon i ysgrifennu Hwyl yn yr ardd.

Mae’n ddilyniant annibynnol i Hwyl yn y dwnjwn. Dros nifer o wythnosau, ystyriodd Dosbarth Afan stori Hwyl yn y dwnjwn a meddwl am eiriau a syniadau creadigol i archwilio pam oedd cymeriad canolog y llyfr cyntaf, y Frenhines, mor negyddol tuag at chwarae.

Gweithiodd Chwarae Cymru mewn partneriaeth â Petra Publishing i ddatblygu'r llyfr stori.