Am chwarae

Mae chwarae i bawb

Mae gan bob plentyn hawl i chwarae fel rhan o blentyndod hapus, iach, waeth pwy ydyn nhw a ble bynnag maen nhw’n byw. Mae chwarae’n rhywbeth y bydd plant yn ei wneud pryd bynnag maen nhw’n cael cyfle ac mae’n iawn i blant ddewis sut i chwarae.

Ar ryw adeg yn ystod eu plentyndod, bydd llawer o blant yn wynebu rhywbeth fydd yn rhwystr i chwarae. Gallai fod yn newid mewn sefyllfa – fel symud ysgol, dioddef salwch, dod ar draws agweddau negyddol neu fyw yn rhywle sydd heb fannau diogel, hygyrch i chwarae.

Bydd arddegwyr, yn benodol, yn aml yn wynebu rhwystrau i chwarae neu hongian o gwmpas. Gall y rhain gynnwys teimlo nad oes croeso iddyn nhw neu fod oedolion ddim wir yn deall pam fod chwarae a chymdeithasu’n bwysig iddyn nhw.

Dysga fwy am chwarae i bawb:

English English