Am Plentyndod Chwareus

Mae chwarae’n rhan bwysig o blentyndod hapus ac iach i bob plentyn. Mae chwarae’n hwyl ac mae wastad wedi bod yn rhan o sut y bydd plant ac arddegwyr yn dysgu a thyfu. Mae’n un o elfennau pwysicaf eu bywydau.

Mae plant ac arddegwyr yn gwerthfawrogi cael amser, lle a chefnogaeth i chwarae adref ac yn eu cymuned leol. Maent yn dweud wrthym eu bod eisiau mwy o gyfleoedd i chwarae’r tu allan gyda’u ffrindiau. Fel oedolion, ein cyfrifoldeb ni yw gwneud yn siŵr bod hyn yn digwydd.

Rhieni, neiniau, teidiau, a gofalwyr

Mae rhieni, neiniau, teidiau, mam-guod a thad-cuod, a gofalwyr yn gefnogwyr pwysig iawn o chwarae plant. Os wyt ti’n un o’r rhain, fe weli fod Plentyndod Chwareus yn llawn gwybodaeth a syniadau – waeth os ydi by blentyn yn chwarae pi-po, yn neidio mewn pyllau dŵr neu’n dechrau mentro allan ar ei ben ei hun.

Mae ein hadrannau Am Chwarae a Syniadau Chwarae yn anelu i dy helpu i gefnogi chwarae dy blentyn a theimlo’n hyderus am adael iddyn nhw chwarae’r tu allan yn y gymuned.

Pob oedolyn sydd â diddordeb cefnogi chwarae plant

Mae gan grwpiau fel Cymdeithasau Trigolion, Cymdeithasau Rhieni ac Athrawon, a chynghorau tref a chymuned i gyd ran allweddol i’w chwarae wrth greu cymunedau chwareus ledled Cymru. Os oes gan eich grŵp ddiddordeb cefnogi chwarae plant, mae llu o wahanol ffyrdd y gallwch wneud hynny. Er enghraifft:

  • trefnu digwyddiadau awyr agored
  • ymgyrchu dros ardaloedd chwarae i blant
  • helpu i hyrwyddo newidiadau mewn agweddau ac arferion.

Mae ein hadran Chwarae yn y Gymuned yn cynnwys cyngor am gynllunio ardaloedd chwarae ac ymgyrchu dros chwarae. Mae hefyd yn cynnwys detholiad cyfoethog o enghreifftiau ysbrydoledig o brosiectau a grwpiau ar draws Cymru sy’n gwneud yn siŵr bod plant yn cael cyfleoedd i chwarae.

Mae Plentyndod Chwareus yn ymgyrch gan Chwarae Cymru.

Cennad

Ein cennad. I helpu oedolion i roi plentyndod hapus, iach i blant drwy chwarae. Bob dydd

Ein blog

Dyma'r lle am y wybodaeth ddiweddaraf

Gweld mwy
English