Am chwarae

Buddiannau chwarae

Mae chwarae’n cynnig cymaint i dy blentyn sy’n cefnogi eu hiechyd a’u datblygiad. Pan mae plant yn chwarae, maen nhw’n ymarfer eu cyrff a’u hymennydd heb sylweddoli. Gall chwarae fod yn ymlaciol hefyd – ac yn bwysicaf oll, mae’n hwyl. ’Does dim angen i chwarae gostio llawer (neu ddim o gwbl) ac mae’n gwneud pob diwrnod yn antur.

Waeth beth yw oed dy blentyn, mae chwarae’n dda i’w lles a’u datblygiad. Mae profi llawer o wahanol fathau o chwarae’n helpu plant ac arddegwyr i ddatblygu’r sgiliau a’r annibyniaeth y maent eu hangen wrth iddynt dyfu. Mae’n wych chwarae’r tu allan a chael lle i symud o gwmpas, cael awyr iach ac ennill hyder y tu allan.

 

Dysga fwy am fuddiannau chwarae:

English English