Syniadau chwarae

Cynghorion defnyddiol ar gyfer chwarae

Mae plant yn mwynhau chwarae bob dydd, yn yr haf neu’r gaeaf, ym mhob math o dywydd, weithiau dan do ac weithiau’r tu allan. Mae ein cynghorion yn awgrymu sut y galli fod yn barod ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd a gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd i chwarae.

Weithiau, bydd angen iti baratoi rhywfaint neu feddwl ymlaen llaw er mwyn rhoi rhyddid i dy blentyn chwarae. Er enghraifft, gallet ddod â welingtons efo chi pan mae’n edrych fel y gallai lawio neu gasglu pethau’n barod i greu cuddfan. Bydd bod yn barod yn dy helpu di a dy blentyn i gael cymaint o hwyl â phosibl o’r diwrnod.

Archwilia ein cynghorion:

English English