Mae gan bob plentyn yr hawl i chwarae Dathlwyd Diwrnod Plant y Byd eleni ar 20 Tachwedd ond mae’n bwysig i ni fel rhieni a gofalwyr barhau i gefnogi hawliau plant pob dydd. Mae hyn yn cynnwys hawl plant i chwarae. Mae hawliau plant yn cael eu cydnabod yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae’r confensiwn yn rhestru’r 42 o hawliau sydd gan blant a phlant yn eu harddegau (dan 18 oed). Mae’n berthnasol i bob plentyn a phlentyn yn ei arddegau – waeth pwy ydyn nhw, waeth ble y maen nhw’n byw a waeth beth y maen nhw’n ei gredu. Mae chwarae’n un o hawliau dy blentyn ble bynnag y bo – adref, mewn gofal plant ac yn yr ysgol. Felly, mae rhaid i ni sicrhau bod gan ein plant y lle, amser a’r rhyddid i chwarae heddiw, yfory a bob dydd. I helpu, mae ganddom ni adnoddau a phosteri gwybodaeth rhad ac am ddim am hawl plant i chwarae. Gellir eu rhannu gyda phlant eraill a gydag oedolion – mae’n ffordd wych i atgoffa eraill am pa mor bwysig yw chwarae. Cerdyn post hawl i chwarae Cartŵn hawl i chwarae i’w liwio Poster A4 hawl i chwarae Poster A3 hawl i chwarae Canllaw chwarae adref – llyfryn defnyddiol sy’n llawn syniadau ac awgrymiadau.