Gemau hwyliog a syniadau chwareus i roi tro arnynt Mae e-lyfr newydd sy’n llawn gemau hwyliog a syniadau chwareus i dy blentyn roi tro arnynt yr haf hwn nawr ar gael. Mae’r e-lyfr Haf o Hwyl er mwyn helpu plant i gael fwy o gyfleoedd i chwarae a chael hwyl drwy’r haf. Er mwyn creu’r e-lyfr, gofynnodd Comisynydd Plant Cymru a Chwarae Cymru i blant a phobl ifanc ar draws Cymru rannu eu hoff gêm i’w chwarae. Cymrwch ran Os yw dy blentyn yn mwynhau’r gemau o’r e-lyfr neu os hoffai rannu gemau a syniadau eraill, rhowch wybod i’r Comisiynydd Plant drwy ebost neu trwy ddefnyddio’r hashnod #HafOHwyl ar Twitter. Cymrwch olwg ar yr e-lyfr Haf o Hwyl