Mae plant a phlant yn eu harddegau angen, ac mae ganddynt hawl, i gael mannau o safon ac amser i chwarae fel rhan o’u bywyd bob dydd yn eu cymdogaeth eu hunain. Ond, mae rhwystrau a heriau all atal plant rhag cael y rhyddid a’r annibyniaeth i chwarae allan yn eu cymunedau.

Mae’r canllaw newydd hwn yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol i wneud yn siŵr bod plant yn cael digon o amser, lle a rhyddid i chwarae bob dydd. Mae Cymunedau Chwareus yn llawn syniadau am sut i wneud eich cymuned yn fwy chwareus. Mae hefyd yn cynnwys esiamplau o’r hyn sy’n cael ei wneud mewn cymunedau ledled Cymru.

Darllen y canllaw Cymunedau Chwareus

Mae’r canllaw hwn wedi ei ddatblygu gyda Gwasanaeth Ieuenctid a Chwarae Wrecsam