Ewch allan i archwilio, chwarae a chael hwyl yr hanner tymor hwn! Mae cael plant y tu allan i chwarae, defnyddio eu dychymyg, ac archwilio yn bwysig ar gyfer eu lles, eu gwytnwch a'u datblygiad – yn ogystal â’u hapusrwydd.

Dyma rai syniadau gan deulu Lewis am chwarae yn yr awyr agored, ymgysylltu â natur, a dod i adnabod y byd o'ch cwmpas.

Chwilio am ragor o syniadau chwarae i geisio’r hydref hwn? Rhowch gynnig ar rhain:

  1. Chwarae ‘Pooh sticks’ 
  2. Creu siapiau cysgod 
  3. Chwilio am bethau hydrefol wrth fynd am dro
  4. Creu cuddfan 
  5. Mynd ar helfa sborion 
  6. Cerfio pwmpen 
  7. Chwarae cuddio yn y tywyllwch 
  8. Dal dy gysgod 
  9. Neidio mewn pyllau
  10. Gwylio’r sêr.