Awgrymiadau anhygoel ar gyfer dathlu Diwrnod Chwarae Diwrnod Chwarae ydi’r diwrnod cenedlaethol ar gyfer chwarae yn y DU. Byddwn yn dathlu Diwrnod Chwarae 2021 ar Ddydd Mercher 4 Awst. Y thema ar gyfer Diwrnod Chwarae eleni yw Haf o Chwarae. Mae’r thema yn cydnabod yr heriau y mae plant a phlant yn eu harddegau wedi eu hwynebu dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf a’r angen i fwynhau amser i chwarae’n rhydd o gyfyngiadau, gyda’u ffrindiau, yn cael hwyl. Mae Plentyndod Chwareus yn annog pob teulu i dreulio’r diwrnod – a’r haf cyfan – yn chwarae. Dyma ein hawgrymiadau anhygoel ar gyfer Diwrnod Chwarae chwareus! Fyddwch chi ddim angen cynllun gweithgareddau. Os allwch chi gymryd cam yn ôl a goruchwylio o bell, bydd y plant yn fwy tebygol o chwarae yn eu ffordd eu hunain ac ennill buddiannau arbrofi a phrofi pethau drostynt eu hunain. Rhoddwch ddigonedd o bethau i blant chwarae â nhw. Casglwch ddetholiad o amgylch y tŷ, fel hen ffabrig a dillad, potiau a sosbenni, tiwbiau a bocsys cardbord. Bydd plant yn greadigol iawn o gael llonydd i chwarae gyda’r pethau hyn. Mae plant yn rhyfeddu at natur, felly meddyliwch am bethau sy’n caniatáu i blant archwilio’r pedair elfen yn eu chwarae: Daear – teisennau mwd, tywod, clai neu dyllu Awyr – barcutiaid, swigod, balwnau neu faneri Tân – addurno canhwyllau, rhostio malws melys neu goginio dros dân gwersyll Dŵr – pibelli dŵr, bwcedi, sbwnjis neu ganiau dŵr. Gwnewch yn siŵr bod eich plant yn barod am ddiwrnod o chwarae. Anogwch y plant i wisgo hen ddillad ar gyfer baeddu a gwlychu – a byddwch yn barod beth bynnag fo’r tywydd. Os rhoddwch chi ddigon o amser i blant, byddant yn chwarae a bod yn greadigol. Treuliwch y diwrnod cyfan yn chwarae – gartref, yn yr ardd, a gyda ffrindiau a theulu allan yn eich cymuned. Os rhoddwch chi ddigon o le i blant chwarae, bydd yn cefnogi ystod eang o brofiadau. Gwnewch ddefnydd o ofod awyr agored yn eich cymdogaeth, fel y parc, traeth neu faes chwarae. Os rhoddwch chi gefnogaeth i blant chwarae, maent yn fwy tebygol o chwarae yn eu ffordd eu hunain. Efallai y bydd angen ichi gytuno ar rywfaint o reolau cyffredinol ond, fel arall, gadewch i’r plant benderfynu’r hyn sy’n briodol trwy gamu’n ôl. Os oes gennych dîm datblygu chwarae lleol, cysylltwch â nhw gan y gallan nhw, efallai, roi gwybod i chi beth sy’n digwydd yn eich ardal chi ar Ddiwrnod Chwarae a thrwy’r Haf o Chwarae. Gwybodaeth manylion cyswllt. Mwynhewch! Dylai treulio’r diwrnod yn chwarae fod yn hwyl i blant a rhieni. Camwch yn ôl ac arsylwi’r profiadau anhygoel gaiff eich plant wrth chwarae – fe’i gwelwch yn dysgu, yn trin a thrafod ac yn mwynhau eu hunain. Yn olaf, gofynnwch i’r plant beth oedden nhw’n ei feddwl o’r diwrnod. Os yw’r plant wedi mwynhau, meddyliwch sut y gallech chi chwarae fwy bob dydd.