Chwarae yn y gymuned

Ymgyrchu

Os wyt ti am wella cyfleoedd chwarae’n lleol ar gyfer dy gymuned, mae’r adran Ymgyrchu yn rhoi gwybodaeth a chyngor iti am ffyrdd i gyflawni dy nod.

Mae ymgyrchu’n ffordd i gyflawni newid er gwell. Mae llawer o wahanol ffyrdd y galli ymgyrchu, yn cynnwys cynnal cyfarfodydd, rhedeg digwyddiadau, cysylltu gyda’r cyfryngau, defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, cynnal gwaith ymchwil ac arolygon.

Unwaith dy fod yn gwbl glir am yr hyn yr wyt yn gobeithio ei newid neu ei wella, galli greu cynllun. Meddylia pwy fydd angen i ti eu perswadio i wneud rhywbeth yn wahanol? Beth sydd angen iti ei wneud i ddadlau dy achos? Sut mae pobl eraill wedi gwneud hyn?

Bydd ambell fater yn gyflym ac yn syml i’w gyflawni, tra bydd eraill yn cymryd mwy o amser neu’n fwy cymhleth. Cofia rannu a dathlu pob llwyddiant yn ystod y daith.

Archwilia syniadau a chyngor ymgyrchu:

English English