Chwarae yn y gymuned

Cynllunio dy ardal chwarae

Bydd yr adran Cynllunio dy ardal chwarae yn dy helpu pan fyddi’n gweithio tuag at greu neu wella ardal chwarae. Mae’n darparu gwybodaeth gydag arweiniad ymarferol cam wrth gam am bethau y gallet feddwl amdanynt a’u gwneud.

Mae plant ac arddegwyr yn chwarae a hongian o gwmpas mewn llawer o fannau, rhai sydd wedi’u dylunio ar gyfer chwarae a rhai sydd ddim. Mae’r rhain yn cynnwys strydoedd, parciau, parciau sglefrio, mannau agored ac ardaloedd naturiol fel traethau, coedydd ac afonydd.

Mae’n bosibl y bydd gan fannau sydd wedi’u dylunio ar gyfer chwarae – y cyfeirir atynt fel arfer fel ardaloedd chwarae, meysydd chwarae neu ardaloedd chwarae gydag offer – offer fel siglenni, llithrennau, fframiau dringo. Gallant hefyd gynnwys nodweddion naturiol neu gyfleusterau sy’n cefnogi chwarae.

Dechreua gynllunio dy ardal chwarae:

English English