Am chwarae

Cynghorion chwareus i rieni

Po fwyaf y bydd dy blentyn yn chwarae, y mwyaf y bydd yn datblygu ei sgiliau chwarae a’r mwyaf hyderus y byddi dithau’n teimlo am eu cefnogi. Pan fydd chwarae’n rhan o drefn ddyddiol naturiol dy deulu, galli di a dy blentyn fynd i’r arfer o chwarae – chwarae adref a phan fyddwch chi allan ar hyd y lle. Bydd dy blentyn yn ennill sgiliau a dealltwriaeth fydd yn helpu i’w paratoi ar gyfer chwarae’r tu allan yn annibynnol ac yn ddiogel, pan maen nhw’n barod.

Gall fod yn heriol gweithio allan y ffordd orau i gefnogi chwarae dy blentyn. Fe fyddan nhw’n chwarae ac yn hongian o gwmpas neu’n cymdeithasu mewn gwahanol ffyrdd sydd wastad yn newid.

I helpu, dyma rywfaint o awgrymiadau a chynghorion syml ar gyfer nifer o wahanol sefyllfaoedd. Maen nhw’n cynnwys pethau fel rheoli amser sgrîn, cefnogi plant o bob oed a chael plant pobl eraill draw i chwarae i’ch tŷ chi.

Awgrymiadau a chyngor ar gyfer rhieni chwareus:

English English