Chwarae mewn argyfwng

Am chwarae

Chwarae mewn argyfwng

Mae’r pandemig coronafirws yn cael effaith ar blant o amgylch y byd. I gefnogi hawl plant i chwarae, mae’r International Play Association wedi datblygu adnoddau newydd I helpu rhieni a gofalwyr.

Mae’r adnoddau yn rhoi gwybodaeth a syniadau i rieni i gefnogi chwarae plant. Mae’r pynciau yn cynnwys pwysigrwydd chwarae mewn argyfwng a sut i ymateb i anghenion chwarae plant. Mae’r adnoddau hefyd yn cynnig gwybodaeth am sut i ddelio gyda materion sydd efallai yn achosi pryder i rieni, fel plant yn chwarae gyda themau anodd fel colled, marwolaeth ac unigedd.

Yn ystod cyfnodau o argyfwng, mae chwarae yn helpu i roi ymdeimlad o normalrwydd a llawenydd i blant.

Mae pob adnodd ar gael i'w lawrlwytho yn unigol:

Neu lawrlwytha’r adnoddau fel llyfryn.

Datblygwyd yr adnoddau hyn gan yr International Play Association yn Saesneg yn unig.

English