Chwarae sy’n rhoi rhyddid i’r rhywiau

Am chwarae

Chwarae sy’n rhoi rhyddid i’r rhywiau

Mae chwarae sy’n rhoi rhyddid i’r rhywiau’n chwarae sy’n dangos i blant ac arddegwyr:

  • ei bod hi’n iawn iddyn nhw chwarae sut bynnag y maen nhw eisiau, heb deimlo eu bod yn cael eu cyfyngu gan eu rhyw
  • nad ydyn ni - yr oedolion o’u hamgylch - yn ceisio pasio ymlaen unrhyw syniadau pendant am sut y dylai bechgyn neu ferched chwarae.

Mae syniadau plant am yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn fachgen neu’n ferch yn dechrau datblygu pan maen nhw’n ifanc iawn. Maen nhw’n cael y syniadau hyn o bob math o leoedd a gan wahanol bobl.

Mae rhai syniadau’n dangos i dy blentyn y gall fod yn pwy bynnag y mae am fod, ac y gallant wneud eu penderfyniadau eu hunain am eu diddordebau a swyddi.

Ond gall syniadau eraill gyfyngu ar eu disgwyliadau o’u hunain ac o blant eraill. Er enghraifft, efallai y bydd llyfrau stori yn dangos i fechgyn y dylen nhw fod yn ddewr, a bod dim angen iddyn nhw falio am deimladau pobl eraill. Neu efallai y byddan nhw’n dangos i ferched ei bod hi’n bwysicach i fod yn dlws na bod yn glyfar neu gymryd yr awenau.

Ble fydd plant ac arddegwyr yn codi syniadau?

Mae sut y bydd pobl yn ymddwyn tuag at blant ac arddegwyr – a sut y maent yn ymddwyn tuag at ei gilydd – yn ddylanwad mawr arnyn nhw. Maent hefyd yn codi syniadau o:

  • ffilmiau, y teledu a’r rhyngrwyd
  • llyfrau
  • teganau a gemau
  • dillad
  • hysbysebion.

Pam fod chwarae sy’n rhoi rhyddid i’r rhywiau yn bwysig?

Mae rhoi rhyddid i’r rhywiau’n helpu plant ac arddegwyr i:

  • deimlo’n iawn am bwy ydyn nhw a phwy y maen nhw am fod
  • datblygu iechyd meddwl, hunan-barch a delwedd gorfforol gadarnhaol
  • deall am berthnasau cyfartal a llawn parch rhwng pobl.

Ffyrdd syml i wneud yn siŵr bod chwarae’n rhoi rhyddid i’r rhywiau

Beth alli di ei wneud

  • Dangos dy fod yn meddwl ei bod hi’n iawn i dy blentyn chwarae gyda theganau neu gemau y gellid ystyried eu bod ‘ar gyfer bechgyn’ neu ‘ar gyfer merched’ – er enghraifft, pêl-droed neu bramiau doliau.
  • Rhoi gwybod i dy blentyn y bydd pawb yn teimlo gwahanol emosiynau, os ydyn nhw’n fachgen neu’n ferch – mae’n iawn i fechgyn fod yn ofnus, yn garedig, yn angerddol neu emosiynol ac i ferched fod yn danllyd, gofalgar, anturus a phenderfynol.
  • Gwneud yn siŵr bod gennyt amrywiaeth dda o bethau i chwarae efo nhw. Galli newid yr hyn sydd gennyt i chwarae efo nhw’n raddol trwy ddod o hyd i bethau gwahanol yn dy gartref, neu trwy gael pethau o siopau elusen, llyfrgelloedd neu lyfrgelloedd teganau.

Dyma rai syniadau:

  • Mae rhannau rhydd – deunyddiau bob dydd fel jync a bocsys cardbord – yn gadael i blant chwarae fel y mynnant.
  • Mae hen ddillad, ymarferol yn helpu dy blentyn neu blentyn yn ei arddegau i deimlo y gall ddringo, rhedeg o gwmpas a baeddu.
  • Mae dillad gwisgo i fyny fel hen siacedi, hetiau, sgarffiau, hen gynfasau gwely neu lenni yn gadael i dy blentyn neu dy blentyn yn ei arddegau ddefnyddio eu dychymyg.
  • Mae llyfrau gyda phrif gymeriadau gwych, yn fechgyn a merched, yn helpu dy blentyn i weld y gall pobl fodoli mewn amryw o ffyrdd.

Beth alli di ei ddweud

  • Canmol dy blentyn am yr hyn y mae wedi ei wneud neu ei greu, nid dim ond am sut y mae’n edrych.
  • Dwed ‘Dwi’n hoffi sut wyt ti’n neidio / tynnu llun / dy agwedd di’ yn hytrach na dweud pethau fel ‘Dwi’n hoffi dy wallt/dy esgidiau/dy gwrteisi’.
  • Defnyddia’r iaith ddiweddaraf, er enghraifft, swyddogion tân a swyddogion yr heddlu yn lle dyn tân a heddwas.

Beth alli di ei wneud am bethau y bydd pobl eraill yn eu dweud a’u gwneud

  • Weithiau, bydd pobl yn dweud pethau sy’n cyfyngu ar ymddygiad neu deimladau bechgyn a merched. Er enghraifft, ‘ti’n taflu fel merch’ neu ‘crïo fel hogan fach’ neu ‘tydi bechgyn ddim yn gwisgo fel yna’. Meddylia beth allet ti ei ddweud pan glywi di bethau fel hyn – mewn modd fydd yn agor sgwrs heb wneud i unrhyw un deimlo’n wael. Er enghraifft, ‘Sgwn i pam ein bod yn dweud pethau fel yna?’ neu ‘Rwy’n clywed fy hun yn dweud hynna hefyd ond wedyn rwy’n cofio ’dyw e ddim i wneud gyda bod yn fachgen neu’n ferch.’
  • Efallai bod gennyt ffrindiau neu berthnasau sydd wrth eu bodd yn rhoi pethau pinc gloyw i dy ferch neu bethau archarwyr i dy fab! Ceisia siarad gyda dy berthnasau a dy ffrindiau cyn unrhyw ben-blwydd, ac achlysuron eraill ble y gallent roi anrhegion, ac egluro sut yr wyt yn ceisio bod yn niwtral o ran y rhywiau.
English