Skip over main navigation
  • Log in
  • Basket: (0 items)
Plentyndod Chwareus
  • Instagram
  • Facebook
  • Pinterest
CYMRAEG ENGLISH
Cysylltwch â ni
Menu
  • Amdanom ni
    • Am Plentyndod Chwareus
    • Am Chwarae Cymru
    • Amser i Chwarae
    • “Pan o’n i dy oed di”
  • Magu plant yn chwareus
    • Am fagu plant yn chwareus
    • Cefnogi arddegwyr
    • Chwarae dan do
    • Pam fod chwarae'n bwysig i dy blentyn di
    • Am chwarae
    • Amser i chwarae
    • Lle i chwarae
    • Canllawiau 'Sut i...'
    • Pethau i chwarae gyda nhw
    • Awgrymiadau ar gyfer magu plant yn chwareus
    • Chwarae sy’n cynnwys pob plentyn
    • Adnoddau Plentyndod Chwareus
  • Cymunedau chwareus
    • Am Gymunedau chwareus
    • Cynyddu ymwybyddiaeth am chwarae
    • Cynllunio dy ardal chwarae
    • Chwarae ar dy stryd
    • Canllawiau 'sut i'...
    • Ymgeisio am gyllid
    • Enghreifftiau yng Nghymru
    • Cyfeiriadur gwasanaethau chwarae
  • Blog
    • Blog Plentyndod Chwareus
  • Admin
    • Log in
  • Basket: (0 items)
  1. Amdanom ni

Amser i Chwarae

‘Byddai’n well gen i fod yn chwarae’ – ein arolwg newydd yn canfod bod plant yng Nghymru eisiau chwarae mwy ond bod cael neb i chwarae gyda nhw, TikTok a mannau chwarae difflach yn gallu eu hatal

Gyda bron i 70% o blant yn dweud bod chwarae’n gwneud iddyn nhw deimlo’n hapus a chyffrous, rydym yn galw ar rieni, gofalwyr a chymunedau ledled Cymru i roi mwy o Amser i Chwarae i blant – gartref ac allan yn eu cymdogaethau gyda ffrindiau

Pam mwy o Amser i Chwarae?

Fe wnaethom ofyn i 500 o rieni gyda phlant dan 15 oed a 500 o blant 5 i 15 oed yng Nghymru beth oedd eu barn am chwarae a dyma beth ddywedon nhw wrthym ni: 

  • Dywedodd y plant a holwyd yr hoffent chwarae mwy (byddai dros 60% yn hoffi chwarae mwy na phum gwaith yr wythnos), ond eto mae dros 30% yn dweud bod sgrolio trwy TikTok a gwylio fideos ar YouTube yn eu hatal rhag gwneud hynny.
  • Mae 91% o rieni yn dweud bod chwarae’n cael effaith positif ar iechyd meddwl eu plant, ac mae bron i 70% o blant yn dweud bod chwarae’n gwneud iddyn nhw deimlo’n hapus a chyffrous. Ond eto, mae dros 20% o blant yn dweud bod cael neb i chwarae gyda nhw’n eu hatal rhag chwarae.
  • Mae 90% o blant yn dweud eu bod yn gyffredinol hapus gyda’r mannau ble maent yn chwarae, o chwarae’r tu allan ym myd natur i chwarae ar y stryd neu ar y palmant, i chwarae mewn canolfan chwarae fel clwb ar ôl ysgol, neu ar fuarth chwarae’r ysgol, i barc sglefrfyrddio, neu gartref. Fodd bynnag, mae 10% yn dweud allan nhw ddim gwneud unrhyw un o’r pethau yr hoffent eu gwneud yn y mannau hyn.

 Beth oedd gan y plant i’w ddweud

Mae plant wedi dweud wrthym sut mae chwarae’n gwneud iddynt deimlo, fel Aneurin York o’r Barri, sy’n 10 oed, ddywedodd:

‘Dwi wrth fy modd yn chwarae achos mae’n fy helpu yn fy mywyd gyda stwff ac mae’n fy helpu i wybod sut dwi’n teimlo. Mae hefyd yn dangos i bobl sut i fynegi eu teimladau heb orfod eu cuddio oddi wrth unrhyw un’.

Wrth siarad am pam y byddai’n well ganddi fod yn chwarae, dywedodd Summer Pritchard, sy’n 13 oed, o Dreherbert:

‘Mae chwarae’n gwneud imi deimlo’n rhydd. Ac os nad oedd gen i chwarae i droi ato, fe fyddwn i yn fy ystafell yn gwylio TikTok ar fy ffôn’.

Cymryd rhan

Rydym yn awyddus i annog a chefnogi rhieni a gofalwyr i ysbrydoli ac ysgogi mwy o gyfleoedd i’w plant chwarae – dros yr haf a thu hwnt – er gwaethaf rhwystrau cymdeithasol.    

Am y diweddaraf am Amser i Chwarae – ac i glywed mwy am yr hyn sydd gan blant i’w ddweud am bwysigrwydd chwarae yn eu bywydau – dilynwch ein Facebook ac Instagram neu’r hashnod #AmserIChwarae.

 

 

 

 

 

 

Published: 3rd August, 2022

Author: Angharad Wyn Jones

Share this page
  • Email
  • Facebook
  • Twitter

Latest

  • Llyfr stori Hwyl ar iard yr ysgol

    Llyfr stori Hwyl ar iard yr ysgol

    Llyfr stori hawl i chwarae newydd allan nawr – copïau rhad ac am ddim ar gael

  • Rhannwch eich barn am ein gwefan

    Rhannwch eich barn am ein gwefan

    Llenwch ein harolwg cyflym i gael cyfle i ennill taleb gwerth £25

  • Hiwmor mewn chwarae

    Hiwmor mewn chwarae

    Mae'r Dr Amy Paine yn siarad am bwysigrwydd hiwmor mewn chwarae ar gyfer datblygiad plant

  • Amser i Chwarae

    Galw am fwy o Amser i Chwarae i bob plentyn

Related

  • Prosiect Chwarae

    Prosiect Chwarae

    Dewch allan i chwarae cuddio, sgipio a 'sgots!

Most read

  • “Pan o’n i dy oed di”

    “Pan o’n i dy oed di”

    Prosiect newydd Plentyndod Chwareus

  • Am Plentyndod Chwareus

    Am Plentyndod Chwareus

    Mae Plentyndod Chwareus yn cefnogi rhieni, gofalwyr, neiniau, teidiau, mam-guod a thad-cuod i roi amser, lle a chefnogaeth i blant chwarae gartref ac yn eu cymuned

  • Am fagu plant yn chwareus

    Am fagu plant yn chwareus

    Syniadau i rieni a gofalwyr gefnogi chwarae plant a magu plant yn chwareus

  • Amser i chwarae

    Amser i chwarae

    Syniadau rhad, neu rad ac am ddim, er mwyn gwneud yn siŵr bod dy blentyn yn cael digon o amser i chwarae bob dydd

  • Pethau i chwarae gyda nhw

    Pethau i chwarae gyda nhw

    Syniadau am bethau bob dydd, rhannau rhydd, i gefnogi chwarae plant

  • Syniadau ar gyfer chwarae o gwmpas dy gartref

    Syniadau ar gyfer chwarae o gwmpas dy gartref

  • Am gymunedau chwareus

    Am gymunedau chwareus

    Gwybodaeth ymarferol i wneud dy gymuned yn chwareus a sut i gynyddu ymwybyddiaeth am bwysigrwydd chwarae plant

  • Buddiannau chwarae

    Buddiannau chwarae

    Mae gan chwarae bob math o fuddiannau i blant - corfforol, emosiynol a chymdeithasol

  • Paratoi dy blentyn i chwarae’r tu allan yn ddiogel ac yn hyderus

    Paratoi dy blentyn i chwarae’r tu allan yn ddiogel ac yn hyderus

    Ydi hi’n ddiogel i fy mhlentyn chwarae’r tu allan ar eu pen eu hunain? Buddiannau chwarae llawn risg a sut i ddelio gyda dy bryderon fel rhiant

  • Sut i ddelio gyda chwarae poitshlyd

    Sut i ddelio gyda chwarae poitshlyd

    Pam fod fy mhlentyn yn hoffi gwneud llanast? Buddiannau chwarae poitshlyd a sut i ddelio gyda dy bryderon fel rhiant

Cadw mewn cysylltiad

Please enter your first name
Please enter your last name
Please enter your email address Please enter a valid email address (e.g. [email protected])
  • Map o’r wefan
  • Hygyrchedd
  • Telerau ac amodau
  • Polisi preifatrwydd
  • Instagram
  • Facebook
  • Pinterest

Mae Plentyndod Chwareus yn ymgyrch gan Chwarae Cymru.

Mae Chwarae Cymru yn elusen cofrestredig, rhif 1068926 ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant, rhif 3507258. Cofrestrwyd yng Nghymru.