Sut i gynnal archwiliad chwarae cymunedol Bydd archwiliad chwarae cymunedol yn dy helpu i ddeall y cyfleoedd chwarae sy’n bodoli yn dy gymuned leol. Mae’n ffordd o fapio: pa fathau o chwarae sy’n digwydd ble mae chwarae’n digwydd beth sy’n cefnogi chwarae beth sy’n atal neu’n tarfu ar chwarae. Gallai archwiliad ganolbwyntio ar un lle chwarae - fel stryd, maes chwarae ysgol neu barc - neu gallai gwmpasu ardal leol ehangach. Gall archwiliad dy helpu i ymgyrchu, trwy ddarparu’r wybodaeth y byddi ei angen i gynyddu neu wella cyfleoedd chwarae’n lleol. Pam cynnal archwiliad chwarae? Bydd archwiliad yn dy helpu i: gael gwell dealltwriaeth o’r cyfleoedd chwarae sydd ar gael yn dy gymuned casglu tystiolaeth am yr hyn sy’n digwydd yn lleol dadlau dy achos dros chwarae darganfod os oes bylchau mewn cyfleoedd ar gyfer plant o wahanol oed, cefndir a gallu. Ar beth fydd archwiliad yn edrych? Gall archwiliad gasglu gwybodaeth am le, amser, adnoddau a chyfleoedd i chwarae. Mae’n werth hefyd cynnwys agweddau oedolion tuag at chwarae, oherwydd eu bod yn cael effaith anferthol ar blant ac os ydyn nhw’n teimlo’n rhydd i chwarae ai peidio. Dylet ddylunio dy archwiliad i weddu i’r llecyn neu’r lleoliad yr wyt am ddysgu amdano. Gallet edrych ar bethau fel: darpariaeth ar gyfer chwarae - fel parciau a mannau chwarae (dan do ac awyr agored) nodweddion ac offer y bydd plant yn eu defnyddio i chwarae - fel siglenni, coed, creigiau a thywod chwarae yr wyt yn ei weld yn digwydd neu y bydd y plant neu blant yn eu harddegau’n sôn wrthyt amdano pobl a sefydliadau sy’n rhan o gefnogi chwarae – gallai hyn amrywio, o gynlluniau cau ffyrdd ar gyfer chwarae stryd gan rieni, i gymdeithas chwarae leol, i dîm chwarae dy awdurdod lleol gwybodaeth sydd ar gael i’r gymuned am chwarae a chyfleoedd chwarae. Sut ddylwn i drefnu archwiliad chwarae? Gall archwiliad gynnwys gwahanol fathau o weithgarwch: rhestru’r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd gan ddefnyddio gwybodaeth o fapiau, cynlluniau lleol a’r cyngor lleol defnyddio arolygon a dy arsylwadau i greu map manylach o ble a phryd y mae plant a phlant yn eu harddegau’n chwarae arsylwi chwarae mewn gwahanol leoliadau cofnodi manylion pwy sy’n chwarae (er enghraifft rhyw, oedran), pa fath o chwarae yr wyt yn ei weld, beth sy’n cefnogi’r chwarae a beth sy’n tarfu arno siarad gyda’r bobl sy’n rhan o’r chwarae am y wybodaeth yr wyt wedi ei gasglu, er mwyn iti wirio os yw dy ganfyddiadau’n gywir. Gallai pobl fel plant a phlant yn eu harddegau, goruchwylwyr meysydd chwarae a thrigolion lleol, fod â gwahanol safbwyntiau a gwybodaeth gwerthfawr i’w ychwanegu. Gallet ddefnyddio’r offeryn archwilio gofod chwarae i dy helpu i roi cychwyn ar bethau. Defnyddio dy ganfyddiadau Mae gwahanol ffyrdd y galli ddefnyddio’r wybodaeth yr wyt wedi ei chasglu. Galli: gael trafodaeth gyda phawb perthnasol, gan ddefnyddio dy ganfyddiadau fel man cychwyn creu cynllun gweithredu ar gyfer cynyddu neu wella cyfleoedd chwarae lleol gwneud ceisiadau am ariannu cyflwyno dy ganfyddiadau i bobl all dy helpu i wneud gwahaniaeth yn lleol - er enghraifft, pobl sy’n gwneud penderfyniadau fel gwleidyddion lleol dewis y pwyntiau cryfaf a’u defnyddio i ddenu sylw’r cyfryngau rhannu dy ganfyddiadau trwy’r cyfryngau cymdeithasol - fel Twitter a Facebook. Gall Sut i gynnal archwiliad chwarae cymunedol gael eu hargraffu a’u rhannu – maen nhw’n wych ar gyfer helpu eraill i ddarganfod mwy am chwarae plant.