Rydym yn lansio Prosiect Chwarae’r Hydref mewn ymateb i angen allweddol i gael plant i chwarae’r tu allan a draw oddi wrth sgriniau’n ystod y misoedd oerach.  

Mae Plentyndod Chwareus yn eiriol dros bob math o chwarae, boed hynny yn y cartref, yn yr ysgol neu yn y gymuned, ac mae’n credu y gellir gwneud mwy i ddarparu chwarae cynhwysol, diogel mewn amgylchedd cymdeithasol cadarnhaol ar gyfer pob plentyn ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.

Mae misoedd yr hydref a’r gaeaf yn gyfnod perffaith i fynd allan ac archwilio gyda’r plant. Mae cymaint o hwyl i’w gael, boed yn chwarae concyrs, sblashio mewn pyllau, adeiladu cuddfan neu fynd ar helfa sborion.

Mae iechyd emosiynol a chorfforol mor bwysig i hapusrwydd a datblygiad plentyn ac maent yn creu’r seiliau ar gyfer y dyfodol. Gan gydnabod y pwysigrwydd yma, a’r angen i gynyddu ymwybyddiaeth mewn ysgolion ac yn y gymuned hefyd, rydym wedi lansio Prosiect Chwarae’r Hydref i annog pawb, ym mhob cwr o Gymru, i ddod ag amser chwarae’n ôl ac i dynnu plant oddi wrth sgriniau.

Fe all pob un ohonom wneud mwy yn y cartref ac mewn ysgolion i annog chwarae awyr agored am ddim a pharhau i wella meddyliau a dychymyg y genhedlaeth nesaf.

Cefnogaeth ar gyfer Prosiect Chwarae'r Hydref 

Meddai Carley Sefton, Prif Swyddog Gweithredol Learning through Landscapes, sy’n arwain Diwrnod Ystafell Ddosbarth Tu Allan yn y DU ac Iwerddon:

'Mae chwarae’n hanfodol ar gyfer datblygiad a lles plant, ond mae chwarae’r tu allan yn sicrhau buddiannau ychwanegol. Mae’r rhain yn cynnwys cyfleodd i werthfawrogi’r tymhorau, deffro’r synhwyrau i gyd a phrofi rhyfeddod a syndod yn y byd naturiol. Mae’r mudiad Diwrnod Ystafell Ddosbarth Tu Allan byd-eang yn eiriol dros chwarae oherwydd fe wyddom o’n adroddiad ‘Muddy Hands’ diweddar fod plant sy’n chwarae’r tu allan yn ystod y diwrnod ysgol yn ennill gwell dealltwriaeth o’r amgylchedd, maent yn hapusach ac yn fwy tebygol o gyflawni eu llawn botensial. Rydym yn annog pawb i fynd allan ar gyfer Prosiect Chwarae.'

Dywedodd Ruth Cameron, rhiant o ardal Elái:

'I fy nheulu i, mae chwarae’r tu allan yn bwysig dros ben, nid yn unig yn gorfforol ond yn feddyliol hefyd. Mae fy mab yn chwarae gemau fideo, ond byd rhithwir ydi hwnnw. Mae wrth ei fodd yn mynd allan a chael awyr iach a chwarae’n greadigol, gan fod ei ymennydd yn gweithio mewn ffordd hollol wahanol. Wrth i dechnoleg ddatblygu a’n bod yn gweld mwy o sgriniau yn cael eu cyflwyno i’r diwrnod ysgol, mae amser chwarae, gwersi Addysg Gorfforol a diwrnodau chwaraeon yn hanfodol iddyn nhw.'

Meddai Mike Greenaway, Cyfarwyddwr Chwarae Cymru a Phlentyndod Chwareus:

'Eleni, fe gynhaliom ein arolwg* ymchwil ein hunain wnaeth gadarnhau bod y cynnydd yn y defnydd o dechnoleg - ymysg pethau eraill - wedi cael effaith negyddol ar gyfleoedd chwarae awyr agored ar gyfer plant heddiw. Mae rhieni’n pryderu’n gynyddol am hyn. Dyna pam, fel rhan o Brosiect Chwarae’r Hydref, y byddwn yn rhannu llu o gynghorion ar sut i annog chwarae yn yr ysgol ac ar gyfer y teulu cyfan.'

Canlyniadau ymchwil Plentyndod Chwareus. Cwblhawyd yr arolwg ar-lein gan 1,027 o ymatebwyr o bob cwr o Gymru ym mis Mai 2019. Casglwyd atebion oddi wrth ymatebwyr yng Ngogledd (23%), De Ddwyrain (46%), Canolbarth (7%) a Gorllewin Cymru (24%). O’r holl ymatebwyr, roedd y mwyafrif - 67% - yn rhieni neu’n warcheidwaid cyfreithlon.