Mae Prosiect Chwarae yn anelu i dynnu teuluoedd oddi wrth sgriniau i chwarae’r tu allan ac i ailymweld â symlrwydd a phleser gemau’r gorffennol. Boed hynny ar y traeth, mewn parc, neu ar stryd ddiogel y tu allan i’r tŷ.

Trwy Prosiect Chwarae rydym eisiau rhoi chwistrelliad o hwyl ac ysbryd yn ôl i mewn i chwarae syml, bywiog, llawn dychymyg – yn union fel y mae oedolion heddiw’n ei gofio o’u plentyndod.

Dau o bob tri oedolyn yng Nghymru’n credu nad yw chwarae’r un fath â blynyddoedd yn ôl

Mae arolwg* a gynhaliwyd ganddom ni yn ddiweddar wedi datgelu bod 66 y cant o bobl yng Nghymru yn credu bod plant heddiw’n cael llai o’r un profiadau chwarae a gafon nhw’n blant.

Y rheswm mwyaf cyffredin yw oherwydd pryderon bod technoleg yn cael effaith ar blentyndod, gyda 59 y cant o oedolion yn dweud bod ‘technoleg yn torri ar draws’ chwarae. Y gemau y mae pobl yn eu methu fwyaf o’r gorffennol yw chwarae cuddio, chwarae sgipio ‘double dutch’ a ’sgots (hopscotch).

Yn ogystal, archwiliodd yr arolwg fuddiannau cael mwy o chwarae rhydd, digymell. Nododd y mwyafrif o ymatebwyr sut y gwnaeth chwarae’n blentyn eu cadw’n iach ac egnïol arweiniodd at iddynt barhau i fod yn fwy bywiog fel oedolyn. Dywedodd eraill ei fod wedi eu helpu i ddatblygu dychymyg da.

Mae’n gwefan yn llawn awgrymiadau a chynghorion defnyddiol ac ymarferol – o syniadau chwarae syml ac am ddim, i anturiaethau bob dydd, i awygrymiadau anhygoel ar gyfer rheoli amser sgrin

Mae Prosiect Chwarae eisoes yn denu cefnogaeth

Dywedodd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru: 

‘Mae chwarae mor bwysig i ddatblygiad plant fel bod ganddynt hawl dynol i chwarae, ac mae wedi ei ddiogelu gan y gyfraith yma yng Nghymru. Mae’n hanfodol ein bod ni, yr oedolion o’u hamgylch, yn gwneud popeth allwn ni i roi pob cyfle posibl i blant fwynhau’r hawl honGall fod yn hawdd anghofio pa mor fuddiol y gall chwarae gemau syml fod: mae’n ffordd wych ar gyfer gollwn stêm, codi’r hwyliau, cael ymarfer corff, a chreu cysylltiadau gydag eraill.

‘Mae atgoffa teuluoedd am werth mwynhau’r gemau hyn gyda’ch gilydd yn bwysig dros ben. Fel llawer o oedolion, mae rhai o atgofion hapusaf fy mhlentyndod o chwarae’r tu allan gyda ffrindiau a theulu. Rwyf wth fy modd bod Chwarae Cymru’n annog pawb i ymuno yn Prosiect Chwarae yr haf hwn.’

 Meddai Julie Morgan, Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru:

‘Mae chwarae’n hanfodol ar gyfer mwynhad plant ac mae’n cyfrannu cymaint i’w lles yn gyffredinol. Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu darparu ariannu i Chwarae Cymru i gefnogi ymgyrch Plentyndod Chwareus.Bydd y fenter yn helpu i bwysleisio pwysigrwydd chwarae a’r rôl sydd gan deuluoedd a chymunedau wrth greu cyfleoedd i blant chwarae.’

Mae Plentyndod Chwareus yn ymgyrch gan Chwarae Cymru. Dywedodd y Cyfarwyddwr, Mike Greenaway: 

‘Roeddem am glywed oddi wrth oedolion a rhieni am eu profiadau plentyndod hwy o chwarae a sut y gwnaeth y rhain helpu i ffurfio’r oedolion ydyn nhw heddiw. Mae ein hymchwil wedi cadarnhau bod y cynnydd yn y defnydd o dechnoleg – ymysg pethau eraill – wedi cael effaith negyddol ar gyfleoedd chwarae awyr agored i blant heddiw. Mae rhieni’n poeni am hyn.

‘I lansio’r prosiect, roeddem am adfywio’r gemau y mae pobl yn gweld eu heisiau fwyaf. Mae’n wych sut mae chwarae’r gemau hyn yn creu ymdeimlad o hiraeth ac yn ein hatgoffa am bleser pur bod yn blentyn. Mae chwarae’n hynod o bwysig i iechyd a hapusrwydd plant. Trwy Prosiect Chwarae, rydym am atgoffa rhieni pa mor hawdd yw chwarae’r tu allan gyda ffrindiau a theulu, a hynny am ddim. Byddem wrth ein bodd yn gweld pawb yn dod at ei gilydd i wneud eu cymunedau’n fwy chwareus – nid dim ond y plant, ond yr oedolion hefyd!’

  

*Canlyniadau ymchwil Plentyndod Chwareus - cwblhawyd yr arolwg ar-lein gan 1,027 o ymatebwyr o bob cwr o Gymru ym mis Mai 2019. Casglwyd atebion oddi wrth ymatebwyr yng Ngogledd (23 y cant), De Ddwyrain (46 y cant), Canolbarth (7 y cant) a Gorllewin Cymru (24 y cant). O’r ymatebwyr, roedd y mwyafrif (67 y cant) yn rhieni neu’n warcheidwaid cyfreithlon.