Skip over main navigation
  • Log in
  • Basket: (0 items)
Plentyndod Chwareus
  • Instagram
  • Facebook
  • Pinterest
CYMRAEG ENGLISH
Cysylltwch â ni
Menu
  • Amdanom ni
    • Am Plentyndod Chwareus
    • Am Chwarae Cymru
    • Amser i Chwarae
    • “Pan o’n i dy oed di”
  • Magu plant yn chwareus
    • Am fagu plant yn chwareus
    • Cefnogi arddegwyr
    • Chwarae dan do
    • Pam fod chwarae'n bwysig i dy blentyn di
    • Am chwarae
    • Amser i chwarae
    • Lle i chwarae
    • Canllawiau 'Sut i...'
    • Pethau i chwarae gyda nhw
    • Awgrymiadau ar gyfer magu plant yn chwareus
    • Chwarae sy’n cynnwys pob plentyn
    • Adnoddau Plentyndod Chwareus
  • Cymunedau chwareus
    • Am Gymunedau chwareus
    • Cynyddu ymwybyddiaeth am chwarae
    • Cynllunio dy ardal chwarae
    • Chwarae ar dy stryd
    • Canllawiau 'sut i'...
    • Ymgeisio am gyllid
    • Enghreifftiau yng Nghymru
    • Cyfeiriadur gwasanaethau chwarae
  • Blog
    • Blog Plentyndod Chwareus
  • Admin
    • Log in
  • Basket: (0 items)
  • Pethau i chwarae gyda nhw

Pethau i chwarae gyda nhw

‘Mae’n well ganddyn nhw chwarae gyda’r bocs oedd am y tegan, na gyda’r tegan ei hun!’ Mae’n siŵr bod pob un ohonom wedi clywed neu ddweud hyn.

Pan fydd dy blentyn yn dewis chwarae gyda bocs yn hytrach na gyda thegan, mae hynny oherwydd eu bod yn gweld ei botensial ar gyfer chwarae. Mae plant yn gweld potensial mewn pob math o bethau. Maen nhw’n gweld y gellir ei ddefnyddio mewn mwy nag un ffordd.

Pa fath o bethau sy’n dda ar gyfer chwarae?

Yn aml, pethau fel bocsys, cortyn, brigau, papur, pasta, clustogau a defnydd fydd y pethau chwarae gorau. Trwy eu defnyddio ar eu pen eu hunain neu gyda’i gilydd, fe allan nhw fod yn unrhyw beth y mae dy blentyn eisiau. Ac maen nhw’n ddelfrydol achos, fel arfer, maen nhw’n bethau sydd i’w cael o gwmpas y tŷ, neu’n hawdd dod o hyd iddyn nhw.

Mae pethau fel tywod, dŵr, cregyn, defnydd, bwcedi, bocsys, rhaffau, teiars, poteli a phren yn hawdd dod o hyd iddyn nhw y tu allan a dydyn nhw ddim yn ddrud.

‘Rhannau rhydd’

Rydyn ni’n galw’r mathau yma o bethau bob dydd yn ‘rannau rhydd’. Mae’r plant yn gallu eu symud o gwmpas, eu cario, eu rholio, eu codi, eu pentyrru ar ben ei gilydd, neu eu rhoi at ei gilydd i greu profiadau a strwythurau diddorol, gwreiddiol.

Mae rhannau rhydd yn wych ar gyfer chwarae plant gan eu bod nhw’n:

  • cynyddu chwarae’r dychymyg a chwarae creadigol
  • eu helpu i chwarae’n gydweithredol ac i gymdeithasu mwy
  • eu hannog i fod yn fwy corfforol egnïol
  • eu helpu i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu a thrafod.

Pa bethau ddylet ti eu rhoi i dy blentyn?

Bydd ychydig o deganau dethol a llawer o rannau rhydd yn gwella gofod chwarae dy blentyn ac yn caniatáu iddynt reoli eu chwarae eu hunain. Mae teganau y gellir eu defnyddio drosodd a throsodd mewn gwahanol sefyllfaoedd yn ddelfrydol – pethau fel blociau adeiladu, pethau celf a chrefft, a theganau meddal.

Rhai syniadau ar gyfer sut y gall dy blentyn ddefnyddio rhannau rhydd

Defnydd

Gall hen lenni, cynfasau gwely a chlustogau gael eu troi’n guddfannau, cerrig sarn mewn afon neu’n glogyn dewin.

Bocsys cardbord

Mawr, bach, un neu lawer, gellir eu troi’n dŷ, yn gastell neu’n gar.

Tiwbiau cardbord

Gall tiwbiau hir (o ganol papur lapio) fod yn hudlath, yn gleddyf, yn ffyn curo drwm neu’n drymped.

Gwahanol sbwriel

Gellir defnyddio pecynnau bwyd ar gyfer esgus bod mewn siop neu gegin. Bydd cortyn a thâp yn helpu plant i greu a newid pethau.

Published: 1st August, 2018

Updated: 1st April, 2020

Author: Lowri Roberts

Share this page
  • Email
  • Facebook
  • Twitter

Latest

  • Cystadleuaeth Diwrnod y Llyfr – cyfle i ennill pecyn chwarae

    Cystadleuaeth Diwrnod y Llyfr – cyfle i ennill pecyn chwarae

    Dy gyfle i ennill pecyn chwarae

  • Chwarae gartref yn ystod hanner tymor

    Chwarae gartref yn ystod hanner tymor

    Annog chwarae annibynnol dy blentyn, i rieni a gofalwyr prysur

  • Llyfr stori Hwyl ar iard yr ysgol

    Llyfr stori Hwyl ar iard yr ysgol

    Llyfr stori hawl i chwarae newydd allan nawr – copïau rhad ac am ddim ar gael

  • Rhannwch eich barn am ein gwefan

    Rhannwch eich barn am ein gwefan

    Llenwch ein harolwg cyflym i gael cyfle i ennill taleb gwerth £25

Related

  • Chwarae gartref yn ystod hanner tymor

    Chwarae gartref yn ystod hanner tymor

    Annog chwarae annibynnol dy blentyn, i rieni a gofalwyr prysur

  • Canllaw chwarae adref

    Canllaw chwarae adref

    Canllaw defnyddiol ar gyfer rhieni

  • 50 syniad chwarae dan do

    50 syniad chwarae dan do

    Sawl un all eich teulu chi ei wneud?

  • Lliwio

    Lliwio

    Lliwiwch rhai o’n cartŵns

  • Chwarae mewn argyfwng

    Chwarae mewn argyfwng

    Cefnogaeth i rieni a gofalwyr

  • Syniadau chwarae ar gyfer rhieni

    Syniadau chwarae ar gyfer rhieni

  • Chwarae egnïol yn ac o amgylch y cartref

    Chwarae egnïol yn ac o amgylch y cartref

  • Syniadau chwarae ar gyfer rhieni

  • 35 syniad chwarae dan do

    35 syniad chwarae dan do

    Gemau hawdd i’w chwarae adref

  • Myfyrdodau rhiant sy’n addysgu gartref

    “Ceisia fynd trwy’r dydd heb ddysgu unrhyw beth...”

Most read

  • “Pan o’n i dy oed di”

    “Pan o’n i dy oed di”

    Prosiect newydd Plentyndod Chwareus

  • Am Plentyndod Chwareus

    Am Plentyndod Chwareus

    Mae Plentyndod Chwareus yn cefnogi rhieni, gofalwyr, neiniau, teidiau, mam-guod a thad-cuod i roi amser, lle a chefnogaeth i blant chwarae gartref ac yn eu cymuned

  • Am fagu plant yn chwareus

    Am fagu plant yn chwareus

    Syniadau i rieni a gofalwyr gefnogi chwarae plant a magu plant yn chwareus

  • Amser i chwarae

    Amser i chwarae

    Syniadau rhad, neu rad ac am ddim, er mwyn gwneud yn siŵr bod dy blentyn yn cael digon o amser i chwarae bob dydd

  • Pethau i chwarae gyda nhw

    Pethau i chwarae gyda nhw

    Syniadau am bethau bob dydd, rhannau rhydd, i gefnogi chwarae plant

  • Syniadau ar gyfer chwarae o gwmpas dy gartref

    Syniadau ar gyfer chwarae o gwmpas dy gartref

  • Adnoddau Plentyndod Chwareus

  • Am gymunedau chwareus

    Am gymunedau chwareus

    Gwybodaeth ymarferol i wneud dy gymuned yn chwareus a sut i gynyddu ymwybyddiaeth am bwysigrwydd chwarae plant

  • Sut i ddelio gyda chwarae poitshlyd

    Sut i ddelio gyda chwarae poitshlyd

    Pam fod fy mhlentyn yn hoffi gwneud llanast? Buddiannau chwarae poitshlyd a sut i ddelio gyda dy bryderon fel rhiant

  • Buddiannau chwarae

    Buddiannau chwarae

    Mae gan chwarae bob math o fuddiannau i blant - corfforol, emosiynol a chymdeithasol

Cadw mewn cysylltiad

Please enter your first name
Please enter your last name
Please enter your email address Please enter a valid email address (e.g. [email protected])
  • Map o’r wefan
  • Hygyrchedd
  • Telerau ac amodau
  • Polisi preifatrwydd
  • Instagram
  • Facebook
  • Pinterest

Mae Plentyndod Chwareus yn ymgyrch gan Chwarae Cymru.

Mae Chwarae Cymru yn elusen cofrestredig, rhif 1068926 ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant, rhif 3507258. Cofrestrwyd yng Nghymru.