Skip over main navigation
  • Log in
  • Basket: (0 items)
Plentyndod Chwareus
  • Instagram
  • Facebook
  • Pinterest
CYMRAEG ENGLISH
Cysylltwch â ni
Menu
  • Amdanom ni
    • Am Plentyndod Chwareus
    • Am Chwarae Cymru
    • Amser i Chwarae
    • “Pan o’n i dy oed di”
  • Magu plant yn chwareus
    • Am fagu plant yn chwareus
    • Cefnogi arddegwyr
    • Chwarae dan do
    • Pam fod chwarae'n bwysig i dy blentyn di
    • Am chwarae
    • Amser i chwarae
    • Lle i chwarae
    • Canllawiau 'Sut i...'
    • Pethau i chwarae gyda nhw
    • Awgrymiadau ar gyfer magu plant yn chwareus
    • Chwarae sy’n cynnwys pob plentyn
    • Adnoddau Plentyndod Chwareus
  • Cymunedau chwareus
    • Am Gymunedau chwareus
    • Cynyddu ymwybyddiaeth am chwarae
    • Cynllunio dy ardal chwarae
    • Chwarae ar dy stryd
    • Canllawiau 'sut i'...
    • Ymgeisio am gyllid
    • Enghreifftiau yng Nghymru
    • Cyfeiriadur gwasanaethau chwarae
  • Blog
    • Blog Plentyndod Chwareus
  • Admin
    • Log in
  • Basket: (0 items)
  • “Pan o’n i dy oed di”
  1. Amdanom ni

“Pan o’n i dy oed di”



Mae ein prosiect newydd, “Pan o’n i dy oed di”, yn anelu i herio rhagdybiaethau am ymddygiad arddegwyr mewn mannau cyhoeddus. Rydym eisiau annog pawb i fod yn fwy goddefgar o’n arddegwyr mewn mannau a rennir, achos, fel mae’n digwydd, dydyn ni ddim mor wahanol a hynny wedi’r cwbwl…  

Meddyliwch am eich bywyd chi yn eich arddegau. Efallai bod llai o dechnoleg a bod y ffasiwn yn wahanol, ond efallai y cewch eich synnu i sylweddoli pa mor debyg oedd eich profiadau chi i rai plant yn eu harddegau heddiw.

Mae arddegwyr o bob cwr o Gymru wedi bod yn rhannu eu profiadau o chwarae a chymdeithasu gyda’u ffrindiau, ac maent yn annog oedolion i feddwl am y tebygrwydd rhyngddynt.

Meddai Celyn, 12 oed:

“Fydden ni jest yn hoffi i oedolion fod yn iawn gyda’r ffaith ein bod yn y parc pan ydyn ni am fod yno, a gwybod nad ydyn ni’n gwneud dim byd o le. Fel arfer bydd grŵp mawr ohono’ ni yn y diwedd, ac rydyn ni gyd yn hoffi cael hwyl gyda’n gilydd ar ôl ysgol.

“Dwi’n siarad gyda fy rhieni am beth oedden nhw’n ei wneud pan oedden nhw fy oed i, a dydi o ddim mor wahanol â hynny! Dwi’n treulio lot o amser yn y parc gyda fy ffrindiau ac eistedd ar y meinciau fel oedden nhw. Ond mae gyda ni ffonau a phethau heddiw, felly rydyn ni’n creu TikToks a defnyddio SnapChat.”

Dywedodd Cerys, mam Celyn:

“Er ei bod hi’n gallu bod yn anodd gadael i’n plentyn yn ei harddegau fynd allan a chwarae gyda’i ffrindiau heb i ni fod o gwmpas, mae hyn i gyd yn rhan o dyfu i fyny a gadael iddi ddod i adnabod ei hun. Fe dreuliais i lawer o fy arddegau’n cymdeithasu mewn parciau ac ar strydoedd fy mhentref, aros allan yn llawer hwyrach nag oeddwn i fod a smalio fy mod wedi anghofio faint o’r gloch oedd hi, felly rŵan dwi’n dysgu fel rhiant sut i dderbyn bod fy merch yn ei harddegau’r un fath!”

Pam ei fod yn bwysig

Mae adroddiadau’n dangos bod arddegwyr heddiw’n fwy synhwyrol na chenedlaethau blaenorol, ond er hynny, mae’r mwyafrif o blant yn eu harddegau yn teimlo eu bod yn cael eu cynrychioli’n annheg yn y cyfryngau.

Mae anhwylderau iechyd meddwl ymysg arddegwyr hefyd yn cynyddu – yn enwedig ers dechrau’r pandemig – felly, mae’n bwysicach nag erioed i bobl ifanc allu chwarae a chymdeithasu yn eu cymunedau gyda’u ffrindiau.

Rydym eisiau creu nostalgia a hel atgofion ymysg oedolion yng Nghymru, gan helpu i bontio’r bwlch oedolion ac arddegwyr heddiw, yn enwedig mewn mannau cyhoeddus. Trwy gofio ein harddegau ein hunain, gallwn ddeall yn well a bod yn fwy goddefgar o ymddygiad chwareus arddegwyr heddiw a phob dydd.

Cymryd rhan 

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf – Facebook ac Instagram.

Rhannwch eich atgofion o chwarae yn eich arddegau ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #PanOnIDyOedDi.

 

Published: 19th April, 2022

Updated: 3rd August, 2022

Author: Angharad Wyn Jones

Share this page
  • Email
  • Facebook
  • Twitter

Latest

  • Llyfr stori Hwyl ar iard yr ysgol

    Llyfr stori Hwyl ar iard yr ysgol

    Llyfr stori hawl i chwarae newydd allan nawr – copïau rhad ac am ddim ar gael

  • Rhannwch eich barn am ein gwefan

    Rhannwch eich barn am ein gwefan

    Llenwch ein harolwg cyflym i gael cyfle i ennill taleb gwerth £25

  • Hiwmor mewn chwarae

    Hiwmor mewn chwarae

    Mae'r Dr Amy Paine yn siarad am bwysigrwydd hiwmor mewn chwarae ar gyfer datblygiad plant

  • Amser i Chwarae

    Galw am fwy o Amser i Chwarae i bob plentyn

Most read

  • “Pan o’n i dy oed di”

    “Pan o’n i dy oed di”

    Prosiect newydd Plentyndod Chwareus

  • Am Plentyndod Chwareus

    Am Plentyndod Chwareus

    Mae Plentyndod Chwareus yn cefnogi rhieni, gofalwyr, neiniau, teidiau, mam-guod a thad-cuod i roi amser, lle a chefnogaeth i blant chwarae gartref ac yn eu cymuned

  • Am fagu plant yn chwareus

    Am fagu plant yn chwareus

    Syniadau i rieni a gofalwyr gefnogi chwarae plant a magu plant yn chwareus

  • Amser i chwarae

    Amser i chwarae

    Syniadau rhad, neu rad ac am ddim, er mwyn gwneud yn siŵr bod dy blentyn yn cael digon o amser i chwarae bob dydd

  • Pethau i chwarae gyda nhw

    Pethau i chwarae gyda nhw

    Syniadau am bethau bob dydd, rhannau rhydd, i gefnogi chwarae plant

  • Syniadau ar gyfer chwarae o gwmpas dy gartref

    Syniadau ar gyfer chwarae o gwmpas dy gartref

  • Am gymunedau chwareus

    Am gymunedau chwareus

    Gwybodaeth ymarferol i wneud dy gymuned yn chwareus a sut i gynyddu ymwybyddiaeth am bwysigrwydd chwarae plant

  • Buddiannau chwarae

    Buddiannau chwarae

    Mae gan chwarae bob math o fuddiannau i blant - corfforol, emosiynol a chymdeithasol

  • Paratoi dy blentyn i chwarae’r tu allan yn ddiogel ac yn hyderus

    Paratoi dy blentyn i chwarae’r tu allan yn ddiogel ac yn hyderus

    Ydi hi’n ddiogel i fy mhlentyn chwarae’r tu allan ar eu pen eu hunain? Buddiannau chwarae llawn risg a sut i ddelio gyda dy bryderon fel rhiant

  • Sut i ddelio gyda chwarae poitshlyd

    Sut i ddelio gyda chwarae poitshlyd

    Pam fod fy mhlentyn yn hoffi gwneud llanast? Buddiannau chwarae poitshlyd a sut i ddelio gyda dy bryderon fel rhiant

Cadw mewn cysylltiad

Please enter your first name
Please enter your last name
Please enter your email address Please enter a valid email address (e.g. [email protected])
  • Map o’r wefan
  • Hygyrchedd
  • Telerau ac amodau
  • Polisi preifatrwydd
  • Instagram
  • Facebook
  • Pinterest

Mae Plentyndod Chwareus yn ymgyrch gan Chwarae Cymru.

Mae Chwarae Cymru yn elusen cofrestredig, rhif 1068926 ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant, rhif 3507258. Cofrestrwyd yng Nghymru.