Mae chwarae’n gallu bod yn anodd i’w ddiffinio gan ei fod yn gymysgedd o lawer o wahanol fathau o ymddygiadau a rhyngweithiadau. Gall chwarae gynnwys pobl eraill a gwrthrychau. Dyma’r hyn fydd plant yn ei wneud yn naturiol pan nad yw oedolion yn trefnu eu hamser.
Mae chwarae:
Chwarae yw’r hyn y byddwn yn galw unrhyw ymddygiad neu weithgaredd y bydd plant yn ei gychwyn, ei reoli a’i drefnu eu hunain. Bydd yn digwydd pryd bynnag a ble bynnag mae cyfle.
Yn aml, bydd plant yn chwarae’n annibynnol, waeth beth fo’u hoed. Ond o bryd i’w gilydd, efallai y bydd dy blentyn yn gofyn iti am syniadau. Mae’r adran hon o’r wefan yn cynnwys llawer o awgrymiadau
Bydd chwarae dy blentyn yn newid wrth iddyn nhw dyfu a datblygu sgiliau newydd. Felly rydym wedi cynnwys gwybodaeth yma am y gwahanol ffyrdd y gallai dy blentyn ddewis i chwarae ar wahanol adegau o’u plentyndod. Mae gennym hefyd rywfaint o syniadau syml ar gyfer ymuno yn chwarae dy blentyn.
Mae gan chwarae bob math o fuddiannau i blant - corfforol, emosiynol a chymdeithasol Read more
Read more
Chwarae a lles Read more
Syniadau am eitemau bob dydd y gellir eu defnyddio i chwarae a gweithgareddau i’w chwarae Read more
Mae gan bob plentyn hawl i chwarae. Mae’r dudalen hon yn cynnwys adnoddau all helpu eich plentyn i ddysgu am eu hawl i chwarae Read more
Mae chwarae mewn gwahanol ffyrdd yn cefnogi datblygiad plentyn ac yn eu helpu i archwilio’r byd o’u hamgylch Read more
Gwybodaeth a syniadau am sut y bydd plant yn chwarae o’u geni i’w harddegau Read more