Syniadau ar gyfer chwarae – pethau i’w gwneud

Syniadau chwarae

Syniadau ar gyfer chwarae – pethau i’w gwneud

Bydd dy blentyn yn chwarae’n annibynnol ond weithiau byddant yn falch o dderbyn dy help i roi cychwyn ar bethau, dod o hyd i bethau i chwarae gyda nhw neu feddwl am syniadau ar gyfer gemau.

Dod o hyd i stwff i chwarae gydag o

Yn aml, bydd rhoi pethau bob dydd i dy blentyn eu defnyddio fel y mynnant yn fan cychwyn ar gyfer llawer o chwarae dychmygol a chreadigol.

Gallai’r rhain fod yn bethau fel:

  • Eitemau tŷ cyffredin, fel bocsys cardbord, hen bapurau newydd a thybiau neu duniau bwyd glân
  • Pethau o wahanol ystafelloedd y tŷ fel hen gynfasau, pegiau, sosbannau
  • Pethau mwy o faint fel darnau o raff, hen deiars a tharpolin
  • Pethau naturiol fel cerrig crynion, brigau a phyllau dŵr.

Meddwl am gemau i’w chwarae

Galli gael syniadau chwarae trwy feddwl am yr hyn fyddet ti’n eu chwarae’n blentyn. Gallai holi ffrindiau a pherthnasau hŷn fod yn ddefnyddiol hefyd. Dyma rai syniadau i roi cychwyn i ti, a dy blentyn:

  • Llenwi bocs gyda hen ddillad i dy blentyn wisgo i fyny
  • Casglu sialc er mwyn i dy blentyn allu tynnu lluniau ar y palmant
  • Tynnu llun patrwm ar gyfer gêm neidio, fel sgost (hopscotch)
  • Adeiladu cuddfan
  • Adeiladu castell tywod ar y traeth
  • Creu teisennau mwd
  • Gosod siglen ar goeden
  • Mynd am dro yn y tywyllwch
  • Eistedd o gwmpas tân gwersyll
  • Trefnu gemau grŵp fel rownders a thic gyda chymdogion neu ffrindiau
  • Cael rhaff ar gyfer sgipio
  • Casglu marblis
  • Cadw cyflenwad o bethau fel cortyn, sialc, papurau newydd i dy blentyn eu defnyddio
  • Os oes gen ti le, cadw gornel ar gyfer storio eitemau anarferol a mawr y doi ar eu traws ac y bydd dy blentyn yn mwynhau chwarae gyda nhw.

Weithiau, efallai yr hoffai dy blentyn ymuno. Ar adegau eraill, bydd gweld dy fod yn amlwg yn hapus dy fod yn chwarae yn ddigon iddyn nhw.Ypeth pwysicaf y galli ei wneud yw gwneud yn siŵr bod chwarae’n rhan o’u bywyd bob dydd.

Os wyt ti’n edrych am fwy o syniadau hwyliog a chost-isel cymer gip olwg ar ein rhestr 30 synod Chwarae.

English