Hela Rydan ni newydd ddod adref wedi bod allan yn hela Gryffalo! Fe roddon ni’r ‘babi’ yn y fasged, ac i ffwrdd â ni. Wyddai’r un ohonom ni pan aethon ni allan y bydden ni yn mynd i hela Gryffalo (y cyfan oeddwn i angen ei wneud oedd mynd â’r ci am dro!). Roedd y graffiti ar y waliau’n negeseuon oddi wrth y Gryffalo i fy ŵyr, roedd yn amlwg bod y got oedd ar lawr yn y coed wedi ei gadael gan y Gryffalo i ni ddod o hyd iddi! Roedd y cyffro a’r adrodd straeon, gyda’r cwestiynu, a’r meddwl, ei ddychymyg am yr hyn oedd yn digwydd, yn bleser i’w gweld. Mae amser i chwarae gyda fy ŵyr yn mynd â llawer o amser, ’does dim pwysau arnom ni, fe sy’n arwain y chwarae, mae’n ddoniol, heb unrhyw gyfyngiadau a dyma’r ffordd orau erioed i ‘wastraffu’ amser! I ddweud y gwir, fe fydda’ i’n cael stŵr gan fy mab am ‘chwarae’ ac ‘annog’ ymddygiad o’r fath! Ond, ’does dim ots gen i beth y mae o na neb arall yn ei feddwl, mae’r chwerthin, y doniolwch a chlywed fy ŵyr yn galw ‘Nain, edrych, dere i weld’, yn rhy werthfawr i beidio â’i annog, fe fydda’ i’n gwneud yn union beth y mae’n ofyn imi ei wneud! Mae bod yn ‘Nain’ mor wahanol i fod yn ‘Mam’. Mae cyfyngiadau ar ein hamser, tasgau eraill i’w gwneud, mynd i weithio er mwyn ennill cyflog - dyna beth wnes i fel mam gyfrifol. Mae bod yn gyn-weithwraig chwarae, gyda’r wybodaeth y mae hynny’n ei roi ichi (ond yn rhy hwyr i fy mhlant fy hun elwa ohono) yn rhoi lliw cwbl wahanol i’r profiad o chwarae ochr-yn-ochr â fy ŵyr. Fy unig gyfrifoldeb yw gwneud yn siŵr ei fod yn ddiogel, fy mod yn ei garu a’i fod yn cael dal i hela Gryffalo cyhyd ag y mynno! Ŵyr 2½ Nain 54½