Skip over main navigation
  • Sign up
  • Log in
  • Basket: (0 items)
Plentyndod Chwareus
  • Instagram
  • Facebook
  • Pinterest
CYMRAEG ENGLISH
Cysylltwch â ni
Menu
  • Amdanom ni
    • Am Plentyndod Chwareus
    • Am Chwarae Cymru
    • Prosiect Chwarae'r Hydref
    • Prosiect Chwarae
  • Magu plant yn chwareus
    • Am fagu plant yn chwareus
    • Chwarae dan do
    • Pam fod chwarae'n bwysig i dy blentyn di
    • Am chwarae
    • Amser i chwarae
    • Lle i chwarae
    • Canllawiau 'Sut i...'
    • Pethau i chwarae gyda nhw
    • Awgrymiadau ar gyfer magu plant yn chwareus
    • Chwarae sy’n cynnwys pob plentyn
    • Adnoddau Plentyndod Chwareus
  • Cymunedau chwareus
    • Am Gymunedau chwareus
    • Cynyddu ymwybyddiaeth am chwarae
    • Cynllunio dy ardal chwarae
    • Chwarae ar dy stryd
    • Canllawiau 'sut i'...
    • Ymgeisio am gyllid
    • Enghreifftiau yng Nghymru
    • Cyfeiriadur gwasanaethau chwarae
  • Blog
    • Blog Plentyndod Chwareus
  • Admin
    • Log in
  • Basket: (0 items)
  • Chwarae sy’n cynnwys pob plentyn

Chwarae sy’n cynnwys pob plentyn

Mae plant yn mwynhau gwahanol fathau o chwarae ac mae ganddyn nhw wahanol ddiddordebau. Mae’r ffyrdd y byddan nhw’n chwarae’n newid wrth iddynt dyfu a datblygu. Ond dylai pob chwarae fod yn gynhwysol. Mae pob plentyn* a phlentyn yn ei arddegau, yn cynnwys plant anabl a phlant anabl yn eu harddegau, â’r un angen i chwarae ac mae ganddynt hawl cyfartal i blentyndod yn llawn chwarae.

*Mae ‘pob plentyn’ yn golygu pob plentyn unigol - waeth beth fo’i oed, nam, rhyw, iaith, cefndir, ymddygiad neu angen.

Mae ‘chwarae cynhwysol’ yn golygu:

  • Bod gan bob plentyn a phlentyn yn ei arddegau fynediad cyfartal i ddarpariaeth chwarae o ansawdd da yn eu hardal leol
  • Y gall y plant ddewis sut y maent am chwarae – gyda phlant eraill neu ar eu pen eu hunain
  • Ble bynnag y byddant yn chwarae, y dylai fod yn bosibl iddyn nhw chwarae fel y mynnant
  • Y dylent gael mynediad i amrywiaeth eang o gyfleoedd i chwarae.

Pethau i’w hystyried

Gwneud yn siŵr bod chwarae’n gymdeithasol

Bydd plant yn chwarae gyda’u ffrindiau a’u teuluoedd, ac weithiau gyda phwy bynnag sy’n digwydd bod yn y lle ble maen nhw’n chwarae. Mae chwarae’n rhoi llawer o brofiadau cymdeithasol pwysig i blant - un o’r rhain yw cwrdd gydag a dod i adnabod pobl o gefndiroedd gwahanol, sydd â gwahanol amgylchiadau a gwahanol ddoniau. Gall hyn helpu plant i ddatblygu agweddau agored, croesawus, ac mae’n helpu plant i beidio teimlo’n wahanol.

Gwneud yn siŵr bod chwarae’n cynnwys dewisiadau

Fydd plant ddim eisiau chwarae yn yr un modd bob tro, na gyda’r un bobl, nac yn yr un lle. Waeth beth fo nam neu amgylchiadau plentyn, mae’n bwysig iti wneud yn siŵr y gallan nhw chwarae yn eu ffyrdd eu hunain. Mae’n bwysig hefyd bod ganddyn nhw gymaint o reolaeth a dewis â phosibl dros eu chwarae.
ay.

Gwneud yn siŵr bod chwarae’n hygyrch

A yw pob plentyn yn gallu cael mynediad cyfartal i’r gwasanaeth neu’r gofod chwarae? Mae hygyrchedd yn golygu lleihau rhwystrau i chwarae yn cynnwys, mynedfeydd ac allanfeydd, symud o amgylch y safle, mynediad i offer chwarae a phrofiadau chwarae. Os wyt ti’n trefnu rhywbeth fel digwyddiad chwarae ar y stryd neu’n ymuno â theuluoedd eraill, meddylia am fater hygyrchedd ymlaen llaw.

Gwneud yn siŵr bod chwarae’n gynhwysol

Mae bod yn gynhwysol yn golygu mwy na dim ond bod yn hygyrch. Mae’n ymwneud hefyd gyda bod yn agored, yn groesawus ac yn barod i addasu, a sicrhau na fydd unrhyw un yn cael ei adael allan. ’Dyw hyn ddim yn golygu y caiff pawb yr un cyfle i chwarae. Ond dylai pob plentyn allu chwarae mewn modd sy’n eu cynnwys ac y byddant yn ei fwynhau.

Darllen mwy o wybodaeth am fannau chwarae

Pethau i’w gwneud

Gofyn yn gyntaf …

Os nad wyt ti’n siŵr am y ffordd orau i gynnwys plentyn neu blentyn yn ei arddegau, dylet ddechrau trwy ofyn iddyn nhw. Os wyt ti’n credu ei bod hi’n briodol, galli hefyd holi eu rhieni, brodyr a chwiorydd neu ffrindiau.

… ac yna gwrando a gweithredu

Wedi iti ofyn y cwestiwn, ceisia ddod o hyd i ffyrdd i weithredu ar yr hyn a awgrymwyd. Efallai na fydd modd gwneud popeth y gofynnwyd amdano ond yn aml iawn bydd newidiadau bychain yn golygu’r gwahaniaeth rhwng rhywun yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys neu beidio. Os na fydd modd iti weithredu’n syth, cofia egluro nad yw’n bosibl ei wneud heddiw ond dy fod am geisio ei wneud cyn gynted â phosibl.

Addasu gemau

Mae llawer o ffyrdd y gellir addasu gemau fel bod neb yn cael ei adael allan - er enghraifft:

  • Arafu gêm trwy ddefnyddio pêl feddal yn lle un sbonciog
  • Rhoi cyfarwyddiadau neu wybodaeth mewn mwy nag un ffordd - er enghraifft, siarad, dangos lluniau neu arddangos
  • Rhannu’r plant yn barau, gan roi plant ansicr gyda rhai sy’n fwy hyderus
  • Rhoi rhedwyr cyflym mewn parau gyda rhedwyr arafach
  • Rhoi plant hŷn mewn parau gyda phlant iau
  • Canolbwyntio ar yr hyn y mae’r plant yn gallu ei wneud yn hytrach na’r hyn nad ydyn nhw’n gallu ei wneud
  • Defnyddio symbolau hwyliog, bathodynnau neu faneri fel cliwiau gweledol ar gyfer gemau - er enghraifft, i ddangos pwy sydd mewn timau penodol neu ble mae’r guddfan.

Edrych ar dy agwedd dy hun

Mae bod yn gynhwysol yn cynnwys dysgu a bod yn agored i wahanol ffyrdd o fod ac o wneud pethau. Weithiau bydd angen i’n hagweddau a’n tybiaethau personol newid, ac weithiau bydd angen inni newid y modd y byddwn yn gwneud pethau - er enghraifft:

  • Cofio nad oes ffordd gywir nac anghywir o chwarae
  • Mwynhau gweld offer ac adnoddau chwarae’n cael eu defnyddio mewn ffyrdd nad oeddet wedi eu disgwyl na chynllunio ar eu cyfer
  • Bod yn barod i ddysgu gyda’r plant
  • Bod yn barod i roi tro ar bethau – os na fydd hynny’n gweithio, rho dro ar rywbeth arall
  • Bod yn barod i gefnogi hawl pob plentyn i chwarae
  • Dysgu sut y mae pobl a grwpiau eraill yn sicrhau bod pob plentyn yn cael ei gynnwys
  • Defnyddio unrhyw gyngor ac adnoddau cynhwysiant sydd ar gael
  • Dathlu pethau sy’n mynd yn dda
  • Bod yn agored i’r annisgwyl - bydd cyfleoedd a mannau chwarae da’n caniatáu i blant a phlant yn eu harddegau wneud a mwynhau pethau na fydden nhw, efallai, wedi eu gwneud mewn mannau eraill.

Published: 24th July, 2018

Updated: 24th September, 2018

Author: Lowri Roberts

Share this page
  • Email
  • Facebook
  • Twitter

Latest

  • Chwarae’n ystod y cyfnod clo – Jake, Jed, Elliot ac Ianto

    Profiadau chwarae phlant yn eu harddegau yn ystod y cyfnod clo

  • Chwarae’n ystod y cyfnod clo – Sumaya

    Profiadau chwarae plentyn yng Nghaerdydd yn ystod y cyfnod clo

  • Hwyl yn yr ardd – llyfr stori ar gael i’w ddarllen ar-lein

    Llyfr stori arall am hawl plant i chwarae

  • Llyfr stori plant – ar gael am ddim ar-lein

    Darllenwch llyfr stori am hawl plant i chwarae

Most read

  • Am Plentyndod Chwareus

    Am Plentyndod Chwareus

    Mae Plentyndod Chwareus yn cefnogi rhieni, gofalwyr, neiniau, teidiau, mam-guod a thad-cuod i roi amser, lle a chefnogaeth i blant chwarae gartref ac yn eu cymuned

  • Am gymunedau chwareus

    Am gymunedau chwareus

    Gwybodaeth ymarferol i wneud dy gymuned yn chwareus a sut i gynyddu ymwybyddiaeth am bwysigrwydd chwarae plant

  • Am fagu plant yn chwareus

    Am fagu plant yn chwareus

    Syniadau i rieni a gofalwyr gefnogi chwarae plant a magu plant yn chwareus

  • Amser i chwarae

    Amser i chwarae

    Syniadau rhad, neu rad ac am ddim, er mwyn gwneud yn siŵr bod dy blentyn yn cael digon o amser i chwarae bob dydd

  • Pethau i chwarae gyda nhw

    Pethau i chwarae gyda nhw

    Syniadau am bethau bob dydd, rhannau rhydd, i gefnogi chwarae plant

  • Sut i wneud dy gymuned yn un chwareus

    Sut i wneud dy gymuned yn un chwareus

    Syniadau i rieni ac oedolion eraill i wneud eu cymuned yn fwy chwareus

  • Syniadau ar gyfer chwarae – pethau i’w gwneud

    Syniadau ar gyfer chwarae – pethau i’w gwneud

    Syniadau am eitemau bob dydd y gellir eu defnyddio i chwarae a gweithgareddau i’w chwarae

  • Am Chwarae Cymru

    Chwarae Cymru yw’r elusen genedlaethol dros chwarae plant yng Nghymru - rydym yn eiriol dros Gymru chwarae-gyfeillgar ac yn pledio achos hawl plant i chwarae

  • Sut i stopio traffig rhag tarfu ar chwarae

    Sut i stopio traffig rhag tarfu ar chwarae

    Mae traffig yn stopio plant rhag chwarae’r tu allan - cyngor ar sut i atal ceir rhag tarfu ar chwarae plant

  • Sut i gefnogi angen dy blentyn i fwynhau chwarae’n llawn risg

    Sut i gefnogi angen dy blentyn i fwynhau chwarae’n llawn risg

    Pam fod fy mhlentyn yn hoffi cymryd risg? Buddiannau chwarae llawn risg a sut i ddelio gyda dy bryderon fel rhiant

Cadw mewn cysylltiad

Please enter your first name
Please enter your last name
Please enter your email address Please enter a valid email address (e.g. [email protected])
  • Map o’r wefan
  • Hygyrchedd
  • Telerau ac amodau
  • Polisi preifatrwydd
  • Instagram
  • Facebook
  • Pinterest

Mae Plentyndod Chwareus yn ymgyrch gan Chwarae Cymru.

Mae Chwarae Cymru yn elusen cofrestredig, rhif 1068926 ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant, rhif 3507258. Cofrestrwyd yng Nghymru.