Ymunwch â’n Helfa Drysor Llyfrau Stori heddiw!

I ddathlu Diwrnod Chwarae 2021, ac i gychwyn ein Haf o Chwarae, rydym wedi cuddio 3000 o Becynnau Llyfr Stori rhad ac am ddim ar draws Cymru – i blant a’u teuluoedd ddod o hyd iddynt.

Yn dilyn blwyddyn a hanner anodd, mae’n amser i blant gael haf yn llawn chwarae a hwyl. Mae’r Helfa Drysor Llyfrau Stori yn rhoi cyfle i deuluoedd grwydro eu cymuned, defnyddio eu dychymyg a pharhau’r hud gyda’r straeon y byddant yn eu cario adref.

Mae’r pecyn yn cynnwys dau lyfr stori plant a sypreisys chwareus eraill. Mae’r llyfrau stori am bwysigrwydd chwarae. Ar y Diwrnod Chwarae hwn, rydym eisiau sichrau bod pawb yn gwybod, ac yn annog, hawl plant i chwarae heddiw a phob dydd.

Cymryd rhan

Am gliwiau am lle i ddod o hyd i drysor llyfrau stori yn eich ardal, cadwch lygaid ar gyfryngau cymdeithasol eich cyngor neu dîm chwarae lleol drwy’r dydd. Byddwn yn rhannu rhai cliwiau ar ein Facebook ac Instagram hefyd.  

Diwrnod Chwarae 2021

Mae heddiw (4 Awst) yn Ddiwrnod Chwarae – y diwrnod cenedlaethol ar gyfer chwarae yn y DU. Mae miloedd o blant a’u teuluoedd allan yn chwarae yn eu cymunedau ac mewn digwyddiadau lleol. Yr haf hwn, rydym yn annog teuluoedd i roi digonedd o gyfleoedd i blant chwarae a chael hwyl tu allan gyda’u ffrindiau – heddiw a thrwy’r Haf o Hwyl.

Darllen mwy am sut i gael Diwrnod Chwarae’n llawn hwyl