Lansiwyd gwefan Plentyndod Chwareus ym mis Medi 2018 i helpu rhieni a gofalwyr i roi amser, lle a chefnogaeth i blant chwarae gartref ac yn eu cymuned leol.

Dywedwch wrthym beth ydych yn ei feddwl

Rydym yn lansio arolwg i ddarganfod beth yw barn rhieni a gofalwyr am y wefan. Bydd eich barn yn ein helpu i wella pa gymorth a gwybodaeth ar-lein a ddarparwn.

Ydych chi wedi ymweld â gwefan Plentyndod Chwareus o’r blaen neu wedi ein gweld ar y cyfryngau cymdeithasol? Byddem yn falch iawn i glywed eich meddyliau!

Fe gymer yr arolwg tua pum munud i gwblhau. Fel diolch oddi wrth Plentyndod Chwareus, bydd pawb sy’n cwblhau’r arolwg yn cael cyfle i ennill taleb siopa gwerth £25.

Cwblhau’r arolwg

Y dyddiad cau ar gyfer yr arolwg hwn yw 21 Tachwedd 2022.