Beth yw hoff gêm neu syniad chwarae dy blentyn?

I helpu i ddathlu Diwrnod Chwarae eleni, mae Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland a Chwarae Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i greu e-lyfr o hoff gemau a syniadau chwarae plant. Bydd yn llawn syniadau a lluniau gan blant ar draws Cymru.

Diwrnod Chwarae yw’r diwrnod cenedlaethol ar gyfer chwarae yn y DU. Felly, pa ffordd well o ddathlu na thrwy rannu syniadau’r plant eu hunain am sut maent yn mwynhau eu hawl i chwarae? Mae hefyd yn ffordd wych o rannu gemau i ysbrydoli mwy o blant a theuluoedd i chwarae ar Ddiwrnod Chwarae a bob dydd.

Bydd yr e-lyfr yn cael ei lansio ar Ddiwrnod Chwarae – Dydd Mercher 5 Awst.

Cymryd rhan

I wneud yr e-lyfr rydym angen help dy blentyn.

I helpu i gasglu’r syniadau, gall plant ddefnyddio ffurflen fer i rannu gwybodaeth am eu hoff gêm a sut i’w chwarae. Gall plant sydd eisiau cymryd rhan ddewis ysgrifennu neu dynnu lluniau ar y ffurflen.

I gymryd rhan, bydd angen lawrlwytho ac argraffu’r ffurflen.

Lawrlwytho ffurflen fy hoff gêm i chwarae

Unwaith fydd dy blentyn wedi llenwi’r ffurflen, tynna luniau ohoni a’u dychwelyd trwy e-bost erbyn 31 Gorffennaf os gwelwch yn dda.

Os nad oes argraffydd ar gael, gall dy blant ysgrifennu/dynnu lluniau ar daflen o bapur gwag a gellir ebostio’r daflen unwaith y bydd wedi ei gwblhau.