Wyt ti a dy blant wedi darllen y llyfr stori, Hwyl yn y dwnjwn? 

Mae’r Pecyn sesiwn darllen stori newydd yn cynnig syniadau am ffyrdd gall rhieni ddefnyddio’r llyfr stori i siarad am chwarae gyda’u plant.

Mae’r adnodd, sydd ar gael i’w lawrlwytho am ddim, yn cynnwys: 

  • Gwybodaeth am chwarae
  • Gwybodaeth am pa fath o bethau sy’n dda ar gyfer chwarae
  • Syniadau ar gyfer trafod y stori
  • Gweithgareddau ymarferol. 

Lawrlwytho Pecyn sesiwn darllen stori

Os wyt ti na dy blant heb ddarllen Hwyl yn y dwnjwn eto, paid â phoeni – mae ar gael ar-lein i bawb allu ei ddarllen am ddim. 

Mae Hwyl yn y dwnjwn yn llyfr stori ddwyieithog ar gyfer plant ysgol gynradd a’u rhieni. Mae’n ein hatgoffa i gyd bod gan bob plentyn yr hawl i chwarae – a bydd plant yn chwarae ym mha le bynnag y maen nhw a phryd bynnag y gallant. 

Mae’n stori y gellir ei darllen a’i mwynhau drosodd a throsodd, ond gellir ei ddefnyddio fel man cychwyn i drafod chwarae gyda dy blant.   

Darllenwch Hwyl yn y dwnjwn