‘Mae gen i hawl i chwarae hefyd’

Ysgrifennwyd gan Andrea Sysum

Andrea Sysum, Swyddog Chwarae, Gwasanaethau Chwarae a Seibiant Byr Torfaen, sy’n rhannu ei phrofiad o ddarparu darpariaeth chwarae cymunedol cynhwysol trwy gydol y flwyddyn - a sut y gallwch chithau wneud iddo weithio hefyd.

Yma yn Nhorfaen, rydym yn meithrin, yn cefnogi ac yn hyrwyddo hawl pob plentyn i chwarae. O ganlyniad, rydym hefyd wedi datblygu model arfer holistig er mwyn sicrhau y gallwn ddarparu cefnogaeth i bron i 200 o deuluoedd y flwyddyn sydd â phlant a phobl ifanc sydd ag anableddau. Fodd bynnag, wnaeth darpariaeth chwarae gynhwysol yn Nhorfaen ddim digwydd dros nos, mae’n fodel sydd wedi tyfu a datblygu dros gyfnod o 15 mlynedd.

Pan ddechreuais i wirfoddoli gyntaf gyda Chwarae Torfaen yn 2004, roedd darpariaeth chwarae cynhwysol yn cael ei gynnal ond dim ond yn y cynlluniau chwarae haf. Allai’r ddarpariaeth chwarae dros yr haf bryd hynny ond darparu cefnogaeth ar gyfer tua 15 i 20 plentyn oedd ag anghenion ychwanegol lefel isel i gymedrol. Y prif reswm am hyn oedd diffyg ariannu a diffyg staff profiadol i ddarparu’r gefnogaeth gynhwysol.

Bob yn damaid, rydym wedi naddu’n ddyfal ar y rhwystrau i gynhwysiant er mwyn datblygu model arfer llwyddiannus trwy weithio’n agos gyda rhieni a gofalwyr a gweithwyr proffesiynol o’r un meddwl. Erbyn hyn, rydym mewn sefyllfa ble y gallwn ddarparu cefnogaeth i nifer fawr o deuluoedd cymhleth. At hynny, gallwn bellach gefnogi plant a phobl ifanc gydag anghenion iechyd cymhleth ac anableddau dwys. Darperir cefnogaeth nid dim ond yn ystod gwyliau’r haf, ond fe’i darperir hefyd trwy gydol y flwyddyn yn ystod gwyliau hanner tymor, gwyliau’r Nadolig, sesiynau penwythnos yn ogystal â chlybiau chwarae wythnosol.

Felly, sut lwyddon ni i wneud hyn? Wel, ’dyw hi heb fod yn hawdd ac mae’n cymryd llawer iawn o waith caled! Mae bod â’r agwedd iawn yn sicr yn allweddol pan ddaw’n fater o gynhwysiant. Bod ag agwedd ‘gadarnhaol’ neu ‘gwydr hanner llawn’ yw’r elfen allweddol i wneud eich darpariaeth chwarae cynhwysol yn llwyddiant. Ond yn bwysicaf oll, mae’r model wedi gweithio gan nad yw’r bobl sy’n gwthio’r agenda yn ei blaen wedi derbyn y rhwystrau sydd wedi codi a cheisio cymylu ein llwyddiant.

Mae cael pawb ar eich ochr yn bwysig hefyd. Casglwch gefnogaeth oddi wrth weithwyr proffesiynol all eich helpu. Cysylltwch â’ch gilydd i rannu gwybodaeth, cefnogaeth ac adnoddau. Ehangwch eich cefnogaeth trwy gynnwys Aelodau Etholedig a Chynghorau Tref a Chymuned. Yn ogystal, dechreuwch gr?p ffocws ar gyfer rhieni a gofalwyr i rannu gwybodaeth, adnoddau ac i godi arian.

Rydym yn defnyddio gwirfoddolwyr yn ogystal â gweithwyr cyflogedig i ddarparu cefnogaeth. Mae ein rhaglen wirfoddoli wedi bod yn weithredol ers 15 mlynedd. Rydym bellach mewn sefyllfa ble nad oes angen inni hysbysebu am wirfoddolwyr, gan ei fod wedi ei wreiddio ym mhroses tyfu i fyny pobl ifanc yn Nhorfaen. Mae tua 150 o bobl ifanc yn cofrestru i wirfoddoli bob blwyddyn.

Pam bod nhw’n gwneud hyn, medde chi? Wel, rydyn ni’n gofalu am ein gwirfoddolwyr yn dda ac yn darparu profiad gwerthfawr iddyn nhw fydd yn eu paratoi â sgiliau allweddol ar gyfer y dyfodol. Bydd pob gwirfoddolwr yn cwblhau wythnos o hyfforddiant dwys ac fe’u cefnogir i gyflawni dau gymhwyster achrededig.

Yn olaf, er mwyn darparu darpariaeth chwarae cynhwysol, mae rhaid ichi fod yn barod i fod yn hyblyg. I allu addasu a newid amgylcheddau er mwyn ateb anghenion unigol.

Rhagor o wybodaeth ynghylch Gwasanaeth Chwarae Torfaen

Risg mewn chwarae – posibiliadau a chyfleoedd

Erthygl flaenorol
Yn ôl i’r holl erthyglau

Hyrwyddo plentyndod yn llawn chwarae

Erthygl nesaf
English