Llyfr stori plant – ar gael am ddim ar-lein Mae llyfr stori plant am yr hawl i chwarae – Hwyl yn y dwnjwn – nawr ar gael ar-lein i bawb allu ei ddarllen. Mae ar gael am ddim i’w ddarllen a bydd ar gael am gyfnod cyfyngedig yn unig. Mae ar gael ar-lein er mwyn caniatáu mwy o blant a theuluoedd ar draws Cymru a thu hwnt fwynhau ei ddarllen. Mae hyn er mwyn cefnogi teuluoedd yn ystod y pandemig coronafeirws. Mae’r llyfr stori dwyieithog hwn wedi ei anelu at blant oedran ysgol gynradd a’u rhieni. Mae’n ein hatgoffa i gyd bod gan bob plentyn yr hawl i chwarae – a bydd plant yn chwarae ym mha le bynnag y maen nhw a phryd bynnag y gallant. Mae’r stori’n sôn am frenhines greulon fyddai’n cosbi plant a theuluoedd am chwarae. Yn fuan, mae ei dwnjwn mawr yn llawn o blant o bob oed. Gyda dim ond cynfasau gwely, brigau a cherrig, mae’r plant yn bod yn greadigol a chlywir sŵn chwarae llon yn codi o’r dwnjwn. Mae’r frenhines yn gwisgo i fyny fel rhywun arall er mwyn ymchwilio beth sy’n digwydd yn y dwnjwn. Yn fuan iawn, mae’n newid ei meddwl am chwarae ac yn addo i’w gwneud hi’n haws i blant chwarae yn ei theyrnas. Darllenwch Hwyl yn y dwnjwn