Blog Blog Plentyndod Chwareus Llyfr stori Hwyl ar iard yr ysgol I ddathlu Diwrnod Byd-eang y Plant (20 Tachwedd 2022), mae Chwarae Cymru wedi lansio llyfr stori newydd am hawl plant i chwarae. Mae Hwyl ar iard yr ysgol yn adrodd stori un o adegau pwysicaf y diwrnod ysgol i lawer o blant – amser chwarae. Mae’r stori amserol hon yn ei hatgoffa’n wych sut all pob oedolyn ym mywydau plant un ai gefnogi neu rwystro’r hawl i chwarae. Mae’n crynhoi pwysigrwydd oedolion ac amgylcheddau cefnogol a goddefgar wrth helpu plant i gyflawni eu hawl i chwarae. Mae’r llyfr ar gyfer plant ysgol gynradd a’u rhieni. Mae’n anelu i gefnogi plant er mwyn gwneud yn siŵr bod ganddynt yr hawl i chwarae yn yr ysgol. Sut alla i gael copi o Hwyl ar iard yr ysgol? Os hoffech chi dderbyn copi yn rhad ac am ddim mae’n rhaid i chi: Fod yn byw neu’n gweithio yng Nghymru Cofrestru i’n rhestr bostio (sgroliwch i waelod y dudalen) Rannu eich manylion, gan gynnwys cyfeiriad postio, trwy ebost Mae’r llyfr stori wedi ei ddatblygu mewn partneriaeth â Petra Publishing.