Mae llyfr stori plant – Hwyl yn y dwnjwn – nawr ar gael ar-lein i bawb allu ei ddarllen. Mae ar gael am ddim i’w ddarllen a bydd ar gael am gyfnod cyfyngedig yn unig. Mae hyn er mwyn cefnogi teuluoedd yn ystod y pandemig coronafeirws.

Mae’r llyfr stori dwyieithog hwn wedi ei anelu at blant oedran ysgol gynradd. Mae’n ein hatgoffa i gyd bod gan bob plentyn yr hawl i chwarae – a bydd plant yn chwarae ym mha le bynnag y maen nhw a phryd bynnag y gallant.  

Mae’r stori’n sôn am frenhines greulon fyddai’n cosbi plant a theuluoedd am chwarae. Yn fuan, mae ei dwnjwn mawr yn llawn o blant o bob oed. Gyda dim ond cynfasau gwely, brigau a cherrig, mae’r plant yn bod yn greadigol a chlywir sŵn chwarae llon yn codi o’r dwnjwn. Mae’r frenhines yn gwisgo i fyny fel rhywun arall er mwyn ymchwilio beth sy’n digwydd yn y dwnjwn. Yn fuan iawn, mae’n newid ei meddwl am chwarae ac yn addo i’w gwneud hi’n haws i blant chwarae yn ei theyrnas.

Darllenwch Hwyl yn y dwnjwn

Hwyl yn yr ardd

Os hoffech chi wybod pam oedd y frenhines gas yn casáu chwarae, beth am archebu copi am ddim o’r llyfr stori newydd, Hwyl yn yr ardd?

Os hoffech dderbyn copi o’r llyfr trwy’r post, bydd rhaid ichi: 

  1. Fod yn byw neu’n gweithio yng Nghymru
  2. Cofrestru ar-lein i’n rhestr e-bostio

Anfon eich manylion, yn cynnwys eich cyfeiriad post, trwy e-bost