Mae Hwyl yn y dwnjwn yn llyfr stori am hawl plant i chwarae, wedi ei ysgrifennu ar gyfer plant ysgol gynradd a’u rheini. Mae’n anelu i helpu:

  • plant i siarad am eu hawl i chwarae
  • rhieni i ymgyrchu dros chwarae yn eu hardal leol.

Mae’r llyfr am frenhines gas sy’n cosbi plant a theuluoedd am chwarae. Yn fuan, mae ei dwnjwn anferth yn llawn o blant o bob oed. Gyda dim ond dillad gwely, brigau a cherrig, mae’r plant yn ddyfeisgar ac yn dechrau chwarae, a chlywir sŵn chwarae llon yn codi o’r dwnjwn mawr.

Wedi clywed hyn, mae’r frenhines yn gwisgo i fyny fel hen wraig ac yn mynd i ymchwilio beth sy’n digwydd yn ei dwnjwn. Mae’r hyn y mae’n ei weld yno yn newid ei meddwl – a’i chalon – ac mae’n addo ei gwneud hi’n haws i blant chwarae yn ei theyrnas.

Sut alla’ i gael copi o Hwyl yn y dwnjwn?

I dderbyn copi rhad ac am ddim o’r llyfr, bydd angen ichi: 

  1. Fod yn byw neu’n gweithio yng Nghymru
  2. Cofrestru i fod ar ein rhestr e-bostio (sgroliwch i waelod y dudalen)
  3. Ebostio eich manylion atom, yn cynnwys cyfeiriad post. 

 

Sut y crëwyd Hwyl yn y dwnjwn

Fe weithiodd Chwarae Cymru gyda storïwr, cartwnydd, a phlant a rhieni Ysgol Gynradd Mount Stuart yng Nghaerdydd i ddatblygu’r llyfr stori.

Trwy gyfres o weithdai, fe gefnogodd y storïwr grŵp o blant a rhieni i ddynodi rhai o’r heriau yr oedden nhw wedi eu profi gyda chwarae, yn ogystal â rhai o’r profiadau chwarae positif yr oedden nhw wedi eu mwynhau. Gyda’i gilydd fe wnaethon nhw greu geiriau a delweddau’r stori. Fe dynnodd y plant luniau o wahanol fathau o chwarae, wnaeth ysbrydoli’r cartwnydd a helpu i ddod â’r stori’n fyw.