Blog Blog Plentyndod Chwareus Haf o Chwarae Yn galw ar bob teulu i gael Haf o Chwarae! Yn dilyn blwyddyn a hanner anodd ac ansicr, mae’n amser i bob plentyn gael digonedd o gyfleoedd i chwarae a chael hwyl! Fel oedolion, rydym angen cefnogi ein plant drwy roi cyfle iddynt chwarae bob dydd – gartref a thu allan gyda ffrindiau. Yr haf hwn, rydym rydym yn annog teuluoedd a chymunedau i helpu plant fwynhau Haf o Chwarae drwy gydol gwyliau’r haf. Nid oes raid i ni wario lot o arian na theithio milltiroedd – mae gennym syniadau chwarae syml ac am ddim diri ar ein gwefan i ysbrydoli eich plant i gael Haf o Chwarae. Gallwn ni gyd gael anturiaethau bob dydd gartref ac allan yn ein cymuned leol – o gêm o tic, i wneud cacennau mwd, i bicnic tedi bêrs neu adeiladu den ein hunain. Pam chwarae Mae chwarae’n bwysig ar gyfer lles a datblygiad plant, ond yn bwysicach mae’n hwyl! Mae’n sbarduno dychymyg a chreadigedd plant. Mae chwarae’n bwysig ar gyfer iechyd a hapusrwydd plant. Mae’n helpu plant i ddelio gyda straen a gorbryder ac mae’n eu helpu i ail-gysylltu gyda’u ffrindiau. Mae chwarae hefyd yn cefnogi adferiad plant o effeithiau’r pandemig – mae hyn yn bwysicach nag erioed. Cymryd rhan Cadwch lygaid ar ein tudalennau Facebook ac Instagram am weithgareddau hwyliog wythnosol – o wythnos antur i wythnos dŵr i wythnos den! Bydd ganddom hefyd ychydig o gystadleuaethau … cadwch lygaid! Rhannwch eich syniadau chwarae ac anturiaethau’r haf ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio’r hashnod #HafOChwarae.