Gwneud Sŵn Mawr dros Ddiwrnod Chwarae Heddiw, mae’n Ddiwrnod Chwarae, sef y diwrnod cenedlaethol ar gyfer chwarae yn y DU. Mae’n ddiwrnod i gydnabod a dathlu pwysigrwydd chwarae ar Ddiwrnod Chwarae a bob dydd. Neges Diwrnod Chwarae Hapus: Sut all fy nheulu gymryd rhan yn Diwrnod Chwarae 2020? Rydym yn galw arnoch chi i gyd – plant, rhieni ac aelodau o’r gymuned – i ymuno â ni i ddathlu hawl plant i chwarae, ar riniog eich drws. Clapiwch, bloeddiwch, curwch sosbannau, a Gwnewch Sŵn Mawr dros Ddiwrnod Chwarae, am 2:00pm heddiw. Rhyddid Bob Dydd, Anturiaethau Bob Dydd Mae Diwrnod Chwarae eleni yn pwysleisio pwysigrwydd rhoi rhyddid i blant chwarae a chael anturiaethau. Mae Diwrnod Chwarae 2020 yn canolbwyntio ar sut gall chwarae helpu plant i wneud synnwyr o’r byd o’u hamgylch a’u cefnogi nhw trwy gyfnodau o straen ac ansicrwydd. Mae chwarae yn hwyl ac yn ganolog i hapusrwydd plant Mae chwarae yn helpu iechyd a lles corfforol, meddyliol ac emosiynol plant Mae chwarae yn helpu plant i ymdopi gyda straen, gorbryder a heriau Mae chwarae yn cefnogi plant i ddatblygu hyder, creadigedd a sgiliau datrys problemau Mae chwarae yn cyfrannu at ddysg a datblygiad plant. Mwy o wybodaeth am Diwrnod Chwarae Cydlynir Diwrnod Chwarae gan Chwarae Cymru, Play England, PlayBoard Northern Ireland a Play Scotland.