Gwneud Sŵn Mawr dros chwarae! 2:00pm Dydd Mercher 5 Awst 2020 Diwrnod Chwarae yw’r diwrnod cenedlaethol ar gyfer chwarae yn y DU. Oherwydd y sefyllfa bresennol, fydd digwyddiadau Diwrnod Chwarae mawr mewn parciau a chymunedau ar draws Cymru a gweddill y DU ddim yn cael eu cynnal eleni. Felly, beth am ddathlu Diwrnod Chwarae 2020 a hawl plant i chwarae o dy stepen drws yn lle?! Ymunwch â’r dathliadau wrth glapio, bloeddio, taro sosbannau, a Gwneud Sŵn Mawr dros Ddiwrnod Chwarae am 2:00pm Ddydd Mercher 5 Awst. Rydym yn galw ar blant, rhieni ac aelodau o’r gymuned ledled Cymru i ymuno â gweddill y DU i ddathlu hawl plant i chwarae. AdnoddauI helpu ti a dy deulu i gymryd rhan yn Niwrnod Chwarae eleni, gellir lawrlwytho ac argraffu’r adnoddau yma, ar gyfer eu rhannu: Cerdyn post Gwneud Sŵn Mawr dros Ddiwrnod Chwarae – rhannwch gyda’ch cymdogion i ledaenu’r gair fel y gall pawb gymryd rhan Poster Diwrnod Chwarae – gofynna i dy blant ei liwio a’i roi yn eich ffenest i ddangos cefnogaeth dros hawl pob plentyn i chwarae Poster hawl i chwarae – efallai y bydd dy blentyn eisiau lliwio hwn a’i roi yn eich ffenest hefyd i atgoffa pawb fod gan bob plentyn yr hawl i chwarae. Mae’r hawl hwn yn cael ei adnabod yn Erthygl 31 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn Llythyr i blant Cymru – rhanna y llythyr hwn gyda dy blant er mwyn rhoi gwybodaeth iddynt am Ddiwrnod Chwarae a’u hawl i chwarae Gall yr adnoddau hyn gael eu rhannu gyda ffrindiau a theulu, fel y gall pawb ddathlu Diwrnod Chwarae 2020 a hawl plant i chwarae. Rhagor o wybodaeth am Diwrnod Chwarae