Gemau i’w chwarae gartref

‘Dyw cau meysydd chwarae ac ysgolion ddim yn golygu bod raid i chwarae ddod i stop. Mae plant dal i fod eisiau ac angen chwarae bod dydd – ble bynnag y maent. Felly, fe ofynnom ni i ti rannu fideos byr o dy blant yn chwarae eu hoff gemau i’w chwarae gartref.

Yn dilyn ein galwad, rydym wedi rhoi’r pump hoff syniad mewn fideo byr i ysbrydoli teuluoedd eraill ar draws Cymru.

Edrycha ar ein adran chwarae dan do am fwy o syniadau syml.

<Pam fod chwarae’n bwysig 

Mae chwarae – y tu mewn a’r tu allan – yn dda i blant. Pan fydd plant yn dewis beth i’w chwarae, gyda phwy i chwarae, a sut i drefnu eu chwarae, fe fyddan nhw’n cael mwy o hwyl. Yn ogystal, mae plant yn datblygu a dysgu ym mhob math o ffyrdd wrth chwarae. Mae chwarae’n helpu plant i ddatblygu hunan-barch, dychymyg, creadigedd, cydsymudiad corfforol, hyder, canolbwyntio, sgiliau cyfathrebu, balans … ond yn bennaf oll, mae chwarae’n hwyl!

Ymuno yn yr hwyl

Beth yw hoff gêm dy blentyn i’w chwarae gartref? Rho wybod i ni!

Hefyd, beth am rannu lluniau o dy blant yn cymryd rhan yn y gemau hyn?

Tagia ni ar y cyfryngau cymdeithasol – FacebookInstagram a Twitter– a defnyddia’r hashnod #CoronaPlay neu #PlayAtHome.

 

Amser sgrîn

Erthygl flaenorol
Yn ôl i’r holl erthyglau

Cefnogi lles plant trwy chwarae

Erthygl nesaf
English