Blog Blog Plentyndod Chwareus Diwrnod Plant y Byd 2020 Hapus! Heddiw (20 Tachwedd 2020) mae’n Ddiwrnod Plant y Byd – dathliad fyd-eang o hawliau plant. Mae hyn yn cynnwys hawl pob plentyn i chwarae. Mae hawliau plant yn cael eu cydnabod yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae’r confensiwn yn rhestru’r 42 o hawliau sydd gan blant a phlant yn eu harddegau (dan 18 oed). Mae’r confensiwn hwn yn berthnasol i bob plentyn a phlentyn yn ei arddegau, waeth pwy ydyn nhw, waeth ble y maen nhw’n byw a waeth beth y maen nhw’n ei gredu. Mae chwarae’n un o hawliau dy blentyn ble bynnag y bo – adref, mewn gofal plant ac yn yr ysgol. Felly, fel rhieni a gofalwyr, mae’n bwysig gwneud yn siŵr bod dy blentyn yn cael lle, amser a chwmni eraill i chwarae. Cymryd rhan Er mwyn i dy blant gymryd rhan yn Niwrnod Plant y Byd, mae ganddom ni amrywiaeth o adnoddau a phosteri gwybodaeth am hawl plant i chwarae. Gellir eu hargraffu a’u rhannu gyda phlant eraill a gydag oedolion – mae’n ffordd wych i gynyddu ymwybyddiaeth am chwarae. 31 syniad chwarae – er mwyn dathlu 31 mlynedd o’r hawl i chwarae Cerdyn post hawl i chwarae Cartŵn hawl i chwarae i’w liwio Poster A4 hawl i chwarae Poster A3 hawl i chwarae Canllaw chwarae adref – llyfryn defnyddiol sy’n llawn syniadau ac awgrymiadau. Ymuna â Diwrnod Plant y Byd 2020 trwy rannu syniadau chwarae a gweithgareddau dy blant gyda ni – tagia ni ar y cyfryngau cymdeithasol – Facebook, Instagram a Twitter. Trwy gydol y dydd byddwn yn rhannu gwybodaeth ac adnoddau ar ein tudalen Facebook – cadwch lygaid allan am ein cystadleuaeth!