Diolch i bob rhiant a gofalwr Neges gan Seiciatrydd Plant, Dr Mike Shooter, i bob rhiant a gofalwr: Mae pob un ohonoch, rwy’n gwybod, wedi cael eich peledu â chyfarwyddiadau: arhoswch gartref, cadwch hyd braich, cadwch yn iach. Ond rydw i am roi un darn arall o gyngor ichi. Fel seiciatrydd plant, gallaf eich sicrhau bod chwarae’n hanfodol ar gyfer datblygiad corfforol, seicolegol a chymdeithasol plant iach. Hyd yn oed ar adegau fel hyn, pan mae’n ddigon anodd goroesi’r presennol, heb son am feddwl am y dyfodol. Mae chwarae’n hwyl. Mae hynny’n beth od i siarad amdano yng nghanol ein holl bryderon, ond mae angen i blant ystyried bywyd fel rhywbeth hapus a chyffrous. Felly, efallai y gallech roi eich pryderon personol i’r naill ochr am ychydig a chwarae gyda’ch plant neu’r plant sydd yn eich gofal, gyda gemau, tynnu lluniau a phaentio, neu jesd chwarae gwirion. Pwy a ŵyr, efallai y gwnaiff i chithau deimlo’n well hefyd. Chwarae yw’r cyd-destun ble y bydd plant yn dysgu am eu hunain a phobl eraill. Mae hynny’n anodd tra bod rhaid inni gyd dreulio llawer mwy o amser yn ein cartrefi - ond gall plant ddal i greu cysylltiadau gyda’u grŵp cyfoedion trwy’r cyfryngau cymdeithasol. O’r blaen roedden ni’n poeni, yn ddigon teg, am yr amser yr oeddent yn ei dreulio o flaen sgrîn yn hytrach na mynd allan i chwarae gyda’i ffrindiau, ond nawr mae’n debyg ei fod yn ras achubol ar gyfer cadw mewn cysylltiad. Chwarae yw’r modd y bydd plant yn cymryd risg a sylweddoli y gallant ei oresgyn, gydag ambell i gnoc a chlais ar y ffordd. Wrth gwrs, mae rhaid inni eu cadw’n ddiogel o ystyried yr holl beryglon o’n hamgylch, a bydd plant angen inni egluro’n ofalus y rhesymau sydd y tu ôl i’r cyfyngiadau. Ond bydd plant eisiau gwthio eu chwarae i’r eithaf, i sylweddoli y gallant feistroli’r risgiau a chynyddu eu hunanhyder. Ond, gan fod adrannau brys ysbytai’n ei chael yn anodd ymdopi, bydd angen inni gamu i mewn yn gynt nag arfer pan fo perygl cael anaf. Bydd yn anodd iawn taro’r man canol. Mae chwarae’n anodd ei ddarogan, yn union fel bywyd. Un o’r pethau y gallwn ei roi i’n plant pan maent adref o’r ysgol, yw cysur patrwm dyddiol - amser bwyd, gwaith cartref os oes ganddynt beth, eistedd i lawr i ddysgu pethau gyda’n gilydd. Ond, maent angen lle yn y strwythur yna i gyd ar gyfer dychmygu hefyd. Gadewch iddyn nhw arbrofi, i ddilyn eu trywydd eu hunain, i dorri’r patrwm weithiau, i synnu eu hunain, a chithau. Cewch eich syfrdanu. Mae chwarae’n rhoi cyfle i blant roi tro ar wahanol fersiynau o’u hunain, fel gwisgo i fyny. I daflu rhai i un ochr ond dal gafael mewn rhai eraill. Dyma fi; dyma’r hyn yr ydw i ei eisiau o fywyd. Ond, mae bywyd yn ansicr ar hyn o bryd a ’does neb yn siŵr beth sydd o’n blaenau. Mae angen i blant cael eu sicrhau y daw hyn i gyd i ben ryw ddydd, ac y gallan nhw ddal i ymarfer eu breuddwydion ar gyfer y dyfodol. Felly pob lwc a diolch ichi - am helpu plant i gael hwyl, i gadw mewn cysylltiad, i gymryd risg o fewn terfynau diogel, i ehangu eu dychymyg, ac i gadw eu breuddwydion yn fyw. Trwy chwarae. Mae Dr Mike Shooter hefyd yn Gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Chwarae Cymru