Dewch allan i chwarae!

Wyt ti’n cofio chwarae ‘sgots (hopscotch), gemau sgipio a chwarae cuddio pan oeddet ti’n blentyn? Rydym ni eisiau gwneud y gemau hyn yn ffasiynol eto!

Dyma beth ddigwyddodd pan wnaethon ni sialcio ’sgots yn Ynys y Barri a mynd a rhaff sgipio enfawr i Wrecsam:

Rydym eisiau annog mwy o blant i fynd allan i chwarae efo’i ffrindiau dros gwyliau’r haf – mae’r gemau syml hyn yn ffordd wych o gael dy blant oddi wrth sgriniau ac i chwarae tu allan.

Pam dod â gemau’r maes chwarae yn ôl?

Rydym eisiau rhoi chwistrelliad o hwyl ac ysbryd yn ôl i mewn i chwarae syml, bywiog, llawn dychymyg – yn union fel y mae oedolion heddiw’n ei gofio o’u plentyndod.

Pan ofynnon ni i 1000 o oedolion ar draws Cymru pa gemau y maen nhw’n ei fethu fwyaf, fe ddywedon nhw chwarae cuddio, sgipio a sgots.

Dywedodd dau ym mhob tri oedolyn a holwyd wrthym eu bod yn credu bod plant heddiw’n cael llai o’r un profiadau chwarae a gafon nhw’n blant.Y rheswm mwyaf cyffredin yw oherwydd pryderon bod technoleg yn cael effaith ar blentyndod, gyda dros hanner o oedolion yn dweud bod ‘technoleg yn torri ar draws’ chwarae.

Sut all ai gymryd rhan?

Rydym eisiau gweld beth wyt ti’n ei wneud i gael dy blant i chwarae tu allan. Tagia ni ar y cyfryngau cymdeithasol – Facebook, Instagram a Twitter – a defnyddia #ProsiectChwarae fel y gallwn ni ei rannu!

Mwy o wybodaeth am #ProsiectChwarae

Mae’n gwefan yn llawn awgrymiadau a chynghorion defnyddiol ac ymarferol – o chwarae sy’n cynnwys pob plentyn, i sut I ddelio gyda chwarae poitshlyd, i awgrymiadau anhygoel ar sut i gefnogi chwarae plant y neu harddegau.

 

Canllaw Cymunedau Chwareus

Erthygl flaenorol
Yn ôl i’r holl erthyglau

Diwrnod Chwarae – a chwarae bob dydd

Erthygl nesaf
English