Cydiwch yn eich welingtons a chotiau, a beth am chwarae?! Nid oes rhaid i’r dyddiau byrrach a’r oerfel ddifetha amser chwarae dy blant. Mae’r hydref yn gyfnod perffaith i fynd allan, archwilio a chael hwyl. Felly, cydiwch yn eich welingtons a chotiau, a beth am chwarae?! Dyma ambell syniad chwarae i dy blant geisio'r hydref hwn: Chwarae ‘Pooh sticks’ Creu siapiau cysgod Chwilio am bethau hydrefol wrth fynd am dro Creu cuddfan Mynd ar helfa sborion Cerfio pwmpen Chwarae cuddio yn y tywyllwch Dal dy gysgod Neidio mewn pyllau Gwylio’r sêr. Boncyrs am concyrs Syniad chwarae arall gwych ar gyfer yr Hydref yw casglu a chwarae concyrs. Mae chwarae concyrs yn annog plant i fynd allan i gael awyr iach, a’u tynnu oddi wrth sgriniau. Os nad wyt ti’n cofio sut i chwarae concyrs, dyma ein fideo i dy atgoffa! Ymuno yn yr hwyl Beth am rannu lluniau o dy blant yn cymryd rhan yn y syniadau chwarae hydrefol hyn? Tagia ni ar y cyfryngau cymdeithasol – Facebook a Instagram – a defnyddia'r hashnod #ChwaraeHydrefol. Darganfod mwy am chwarae tu allan, beth bynnag fo’r tywydd