Mae cyfleoedd plant i chwarae a chymdeithasu yn yr awyr agored wedi cael eu heffeithio’n fawr gan y pandemig coronafeirws, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo. Roeddem am glywed gan blant yn uniongyrchol i wybod sut maen nhw’n teimlo am chwarae yn ystod y cyfnod o ansicrwydd hyn.

Pan gychwynnodd y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020, roedd Sumaya, 10 oed o Gaerdydd yn hapus oherwydd nad oedd ysgol! Dyma oedd gan Sumaya i’w ddweud am ei phrofiadau chwarae:

‘Felly, fe ofynnais i i mam os allen ni gael hwyl, fel mynd i’r ganolfan chwarae meddal, sglefrio iâ neu chwarae yn y parc ond fe ddywedodd hi bod y cyfnod clo yn golygu allwn ni ddim mynd allan oni bai ei fod yn bwysig iawn! Yna fe ddywedais i allwn ni jesd mynd yn ôl i’r ysgol te? Ac fe ddywedodd hi Na!

Fe ddywedodd mam y gallen ni fynd am dro, ond roedden ni’n gweld heddlu ym mhobman a roeddwn i ofn y bydden nhw’n dweud ‘ewch adref’ felly doeddwn i ddim yn hoffi gadael y tŷ.

Un o’r pethau brafiaf yn ystod y cyfnod clo oedd chwarae Roblox, sy’n gêm y gallwch chi ei chwarae ar-lein. Fel arfer, fe fyddwn i’n chwarae am ychydig ar ôl ysgol, ond yn sydyn fe welais bod bron iawn bawb yn fy nosbarth arno! Felly, fe wnaethon ni greu grŵp a chwarae gyda’n gilydd bob dydd. Fe ofynnais i mam os allwn i siarad gyda rhai o fy ffrindiau ar y ffôn. Felly fe fydden ni’n siarad gyda’n gilydd wrth inni chwarae ac fe aeth hynny mor swnllyd fel byddai mam yn cymryd y ffôn oddi arna’ i!

Fe wnaeth mam yn siŵr fy mod i’n cael amser i chwarae yn yr ardd, mae gen i drampolîn ac weithiau fe fyddwn i’n gweiddi ar fy ffrindiau lan staer i ddod lawr i chwarae gyda fi, ond doedden nhw ddim yn cael oherwydd y feirws. Roedd y feirws yn difetha ein hwyl o hyd! ’Doedd gen i neb i chwarae gyda nhw felly fe ddechreuais i ymarfer sgipio ac rydw i wedi dod yn dda iawn wrthi ac fe ddysgodd mam gemau imi yr oedd hi’n arfer eu chwarae pan oedd hi’n blentyn, fel ‘kerbs’.

Fel arfer fe fyddwch hi’n chwarae ‘kerbs’ ar y stryd ac fe fyddwch chi’n taflu pêl at y cwrb gyferbyn, ond fe chwaraeon ni yn yr ardd a defnyddio’r step i mewn i’r tŷ fel y cwrb. Felly, os fyddai’r bêl yn bownsio oddi ar y cwrb, fe fyddwn i’n cael deg o bwyntiau ond os oeddwn i’n methu fe fyddwn i’n colli tro i mam. Os byddwn i’n llwyddo i ddal y bêl ar yr un pryd, fe fyddwn i’n ennill pum pwynt arall. Mae’n eithaf anodd i anelu’n iawn ond unwaith ichi ddysgu beth i’w wneud, mae’n lot o hwyl!’

Mae stori Sumaya yn ein hatgoffa pa mor bwysig yw chwarae i les a hapusrwydd plant. Wrth inni barhau i weithio ein ffordd trwy’r pandemig a’r cyfyngiadau, mae plant dal angen ac eisiau chwarae.

Fel rhieni rydyn ni eisiau parhau i gefnogi plant yn ystod y cyfnod heriol hwn. Er mwyn helpu rhieni i wneud yn siŵr bod plant yn cael digon o amser, lle a rhyddid i chwarae, mae ganddom ni nifer o adnoddau ymarferol er mwyn cefnogi chwarae yn ac o gwmpas y cartref.