Ers dechrau’r pandemig coronfeirws, mae cyfleoedd pobl yn eu harddegau i gymdeithasu gyda ffrindiau yn yr awyr agored wedi cael eu heffeithio, yn enwedig yn ystod y cyfnodau clo. Roeddem ni eisiau clywed yn uniongyrchol gan blant yn eu harddegau am sut mae’r rheoliadau wedi effeithio ar sut ac yn lle maent yn treulio amser yn yr awyr agored. 

Mae Jake, Jed ac Elliot, sydd i gyd yn 14 oed ac Ianto, sy’n 12 oed o Abertawe’n dweud wrthym am eu profiadau o dreulio amser yn yr awyr agored yn eu cymuned ystod y cyfnod clo cyntaf, ‘nôl yng Ngwanwyn 2020.

Mae Prosiect Parc Sglefrio Llandeilo Ferwallt yn brosiect a arweinir gan blant yn Abertawe sydd wedi bod yn gweithio ers dros ddwy flynedd i greu lle i gwrdd, cymdeithasu, a chael hwyl mewn amgylchedd, sydd am ddim i unrhyw un ei ddefnyddio.

I Jake, roedd cadw’n fywiog trwy sglefrfyrddio a seiclo yn ei gymuned leol yn bwysig. Fe ddywedodd wrthym: ‘Mae hyn wedi helpu llawer iawn gyda fy lles. Pan gaewyd Maes Parcio Bae Caswell roedd llwyth o blant ac oedolion yno’n sglefrfyrddio bob dydd, roedd fel parc cymunedol. Fe wnaeth hyn brofi imi fod angen cyfleuster ar gyfer sglefrfyrddau, beics a sgwteri.

Dywedodd Elliott wrthym fod cadw’n iach wedi bod yn rhan allweddol o’r cyfnod clo iddo fe: ‘Cyn gynted y clywais i fod y rheol pum milltir wedi ei chodi fe wnes i seiclo i Dreforys ac yn ôl! Rwy’n credu mewn byd ar ôl cyfnod clo, y bydd angen inni wneud popeth allwn ni i ailadeiladu ac ailgysylltu fel cymuned. Bydd mannau cyhoeddus, yn enwedig y tu allan, yn ddefnyddiol iawn yn ystod y misoedd nesaf pan ddaw’n amser i ailadeiladu’r cysylltiadau cymdeithasol allweddol hynny unwaith eto.’

Cytunodd Jed bod mynd allan ar hyd y lle yn beicio mynydd a sglefrfyrddio wedi helpu ei iechyd meddwl a’i les: ‘Yn ystod y cyfnod clo ges i drafferth dod o hyd i rywle i sglefrio yn y pentref a gerllaw. Rwy’n gwybod bod hyn yn wir am nifer o bobl eraill.’

Fe fethodd Ianto allu mynd i’r parc sglefrfyrddio yn y dref pan gafodd ei gau. Penderfynodd greu diddordeb i gefnogi parc sglefrio lleol trwy gyflawni her 1000 yr OLLIE Foundation.

‘Fe ddefnyddiais i’r meysydd parcio gwag i ymarfer ac fe wnes i ei gwblhau mewn dwyawr a hanner, fe godais dros £500! Byddai cael ‘pump track’ ger fy nhŷ yn wych. Fe allwn i gwrdd lan gyda ffrindiau, ymarfer triciau ac fe allwn i seiclo neu sglefrio yno ar fy mhen fy hun.’

Mae storïau Jake, Jed, Elliot ac Ianto yn ein hatgoffa pa mor bwysig yw chwarae i les a hapusrwydd plant yn eu harddegau. Wrth inni barhau i weithio ein ffordd trwy’r pandemig a’r cyfyngiadau, mae plant yn eu harddegau’n dal angen ac eisiau chwarae ac ymlacio.

Fel rhieni, rydyn ni eisiau parhau i gefnogi plant yn ystod y cyfnod heriol hwn. Er mwyn helpu rhieni i wneud yn siŵr bod plant yn cael digon o amser, lle a rhyddid i chwarae, mae ganddom ni nifer o adnoddau ymarferol er mwyn cefnogi chwarae yn ac o gwmpas y cartref.