Daeth cyfnod clo Lefel Rhybudd 4 i rym yng Nghymru Ddydd Sul 20 Rhagfyr 2020. Dyma mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn ei ddweud am chwarae plant:

A yw meysydd chwarae plant ar agor?

Ydyn. Mae chwarae yn yr awyr agored yn cynnig manteision sylweddol i blant ac mae cadw parciau a meysydd chwarae ar agor yn cefnogi iechyd a lles meddyliol a chorfforol y plant. Mae llai o risg o drosglwyddo coronafeirws yn yr awyr agored.

Fodd bynnag, ni ellir dileu’r risg yn llwyr, ac mae rhieni a gwarcheidwaid yn cael eu hannog i sicrhau nad yw meysydd chwarae'n mynd yn rhy brysur, a chymryd cyfrifoldeb dros gadw pellter cymdeithasol. Yn benodol, rhaid i chi beidio â threfnu i gyfarfod ag aelwydydd eraill mewn meysydd chwarae ac ni ddylech gymdeithasu yno.

Rydym hefyd yn annog golchi dwylo neu ddefnyddio hylif diheintio yn aml, peidio â bwyta nac yfed mewn parciau, glanhau offer gyda’ch cadachau eich hun, a sicrhau bod niferoedd isel o bobl yn y parc ac ar yr offer drwy gymryd eich tro neu ddefnyddio parciau ar adegau llai prysur.

A fydd plant yn cael chwarae y tu allan ar y stryd yn eu cymunedau?  

Byddant, os nad oes ganddynt fan arall lle gallant chwarae yn yr awyr agored, os yw'n ddiogel iddynt wneud hynny ac os cânt eu goruchwylio'n briodol gan oedolion. Mae chwarae yn yr awyr agored yn cynnig manteision sylweddol i blant, ac mae gallu chwarae y tu allan yn cefnogi iechyd a lles meddyliol a chorfforol y plant. Mae llai o risg o drosglwyddo coronafeirws yn yr awyr agored.

Gall plant chwarae y tu allan gydag aelodau o'u haelwyd neu swigen gefnogaeth eu hunain ond ni ddylent drefnu i gyfarfod â phlant o gartrefi eraill. Mae hyn yn berthnasol i rai dan 11 oed yn ogystal â rhai dros 11 oed. Pan fydd plant yn ddigon hen i ddeall y rheolau, dylid eu hannog i'w dilyn ac osgoi cymysgu â phlant eraill y tu allan i'w haelwyd neu swigen gefnogaeth.

Mae hyn hefyd yn berthnasol lle mae plant yn yr un 'swigen neu ddosbarth ysgol’, gan ei bod yn debygol y bydd mwy o reolaeth a threfn wrth iddynt chwarae yn yr ysgol, a llai o debygolrwydd o ddod i gysylltiad anfwriadol â phobl o'r tu allan i'r swigen. 

A yw parciau ar agor?

Caniateir i barciau aros ar agor ar gyfer ymarfer corff yn yr awyr agored. Gallwch fynd i barciau gydag aelodau o'ch aelwyd ond rhaid ichi beidio â threfnu i gyfarfod ag aelwydydd eraill.

Ond bydd rhai rhannau o barciau fel cyrtiau chwaraeon, parciau sglefrio, meysydd bowlio a chyrsiau golff (gan gynnwys gweithgareddau fel pytio a golff byr) ar gau.

A fyddaf yn dal i allu defnyddio gwasanaethau gofal plant a chwarae o dan gyfyngiadau lefel 4?

Byddwch. Bydd gwasanaethau gofal plant yn dal i gael agor, gan gynnwys gofal dydd, gwarchod plant, sesiynol, crèche, darpariaeth y tu allan i'r ysgol/gwyliau a darpariaeth dechrau'n deg. Caiff nanis hefyd barhau i ddarparu gofal plant. Gall gwersylloedd gweithgareddau llawn neu hanner diwrnod a ddefnyddir fel gofal plant aros ar agor hefyd yn ystod gwyliau'r ysgol.

Caiff plant barhau hefyd i fynychu darpariaeth gwaith chwarae wedi'i staffio, er enghraifft sesiynau chwarae mynediad agored.

Caiff pob darparwr gofal plant a gwaith chwarae, gan gynnwys gofal plant Dechrau'n Deg, aros ar agor a chynnig eu gwasanaethau arferol, gan gynnwys darpariaeth drwy wyliau’r ysgol. Mae hyn yn cynnwys darparwyr gofal plant a gwaith chwarae sy'n gweithredu ar safleoedd ysgolion, canolfannau cymunedol, addoldai, canolfannau hamdden a lleoliadau chwaraeon.

Mwy o wybodaeth gan Llywodraeth Cymru