Chwarae mewn argyfwng Pan fo argyfwng o’n hamgylch ym mhobman gall yr angen i blant chwarae gael ei drechu gan anghenion eraill. Mae’r International Play Association (IPA) yn cydnabod bod chwarae’n rhan hanfodol o fywyd plant a’i fod yr un cyn bwysiced yn ystod cyfnodau anodd mewn bywyd. Mae plant yn profi newidiadau aruthrol i’w byd - methu ffrindiau, tarfu eu patrwm dyddiol, diffyg ymarfer corff a cholli mynd i’w hoff fannau i chwarae - i gyd o fewn awyrgylch o bryder ac ansicrwydd. Mae hwn hefyd yn gyfnod pan fo gan lawer o blant fwy o amser rhydd gyda’u rhieni a’u gofalwyr. Mae rhieni a gofalwyr yn ceisio’n galed iawn i gadw eu plant yn ddiogel, yn iach a hapus yn ystod y pandemig coronafeirws. Mae diffyg cyfleoedd i chwarae’r tu allan yn creu baich ychwanegol diangen ar blant ar adegau fel hyn a hefyd yn eu hamddifadu o ffordd i ddelio gydag emosiynau anodd. Mae chwarae’n cynorthwyo plant i brosesu eu teimladau am newidiadau yn eu byd. Penderfynodd yr IPA helpu trwy ddarparu rhywfaint o syniadau, cyngor a gwybodaeth am chwarae a’u rhannu gyda rhieni a phobl sy’n gweithio gyda phlant. Mae adnodd IPA play in crisis: support for parents and carers yn gyfres o daflenni gwybodaeth ar bynciau unigol sy’n amrywio o ddeall natur a phwysigrwydd chwarae i reoli materion penodol, fel chwarae swnllyd neu chwarae sy’n creu llanast yn y cartref. Mae’r taflenni gwybodaeth yn cwmpasu pam y gallai chwarae plant edrych yn wahanol ar adegau o argyfwng a sut y mae hynny’n galluogi rhieni a gofalwyr i gefnogi chwarae eu plant, yn cynnwys syniadau ar gyfer chwarae os nad oes gennych ganiatâd i fynd allan. Mae adnodd IPA play in crisis: support for parents and carers yn cwmpasu: Pwysigrwydd chwarae’n ystod argyfwng Cefnogi chwarae eich plentyn yn ystod argyfwng Meddwl am chwarae eich plentyn Chwarae sy’n cynnwys themâu anodd Rheoli chwarae yn y cartref sy’n teimlo’n swnllyd neu’n ddinistriol Pethau i chwarae gyda nhw o amgylch y cartref Gwneud y gorau o’ch amser y tu allan Chwarae ar sgrîn neu ar y rhyngrwyd Chwarae pa na allwch fynd allan Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae wrth warchod a hyrwyddo hawl plant i chwarae, hyd yn oed mewn adegau o argyfwng, ac rydym yn gobeithio bod yr adnodd hwn yn ychwanegiad gwerthfawr i deuluoedd ac yn helpu i gyflawni ein cennad fel yr International Play Association. Byddai IPA yn falch iawn i dderbyn adborth ar yr adnoddau yn ogystal â syniadau ar gyfer ychwanegiadau i’r gyfres.