Yn y blog gwadd hwn mae’r Seicolegydd Addysg, Dr Dan O’Hare yn siarad am chwarae plant, creadigedd a diflastod yn ystod cyfyngiadau symud y pandemig coronafeirws.

Mae’n adeg ansicr ar hyn o bryd. Mae’r ysgolion ar gau, a ’does dim llawer o eglurder ynghylch pryd y byddan nhw’n ailagor. Bydd rhai plant a theuluoedd yn profi lefelau straen uwch, tra bydd plant eraill yn teimlo’n hapusach ac wedi ymlacio mwy nag y maent ers tro byd.

Chwarae

Mae’n bosibl mai chwarae yw un o agweddau pwysicaf bywydau plant. Pan fydda’ i’n cwrdd â phlant mewn ysgolion a gofyn ‘beth yw dy hoff beth i’w wneud yn yr ysgol?’ bydd llawer ohonynt yn ymateb yn frwd ‘chwarae!’.

Wrth gwrs, bydd amrywiaeth o fewn yr atebion hyn. Bydd rhai plant yn dweud bod yn well ganddyn nhw chwarae gydag eraill, ac mae’n well gan rai chwarae a gemau sy’n fwy unig. Felly, mae’n newydd da i ni oedolion bod chwarae’n hanfodol i les a datblygiad plant.

Y llynedd, cyhoeddodd y Division of Educational and Child Psychology bapur sefyllfa ar hawl plant i chwarae. Mae’r papur yn disgrifio nifer o fuddiannau chwarae yn cynnwys hybu dysg, datrys problemau, cyfaddasu i heriau, dysgu i reoli ystod o deimladau a datblygu sgiliau cymdeithasol.

Mae’n bwysig nodi bod chwarae’n fwy na dim ond modd o gyflawni rhywbeth arall, mae ganddo werth cynhenid i blant – mae’n bwysig oherwydd bod plant yn ei fwynhau.

Creadigedd

Weithiau mae oedolion yn dueddol o feddwl bod rhaid iddyn nhw strwythuro chwarae ar gyfer plant e.e. gyda rheolau, teganau, gemau. Mae’r mathau hyn o brofiadau’n bwysig, ond mae ymchwil wedi dangos hefyd bwysigrwydd chwarae distrwythur, dan arweiniad y plentyn.

Gall dychymyg plentyn fod yn ddi-ben-draw ac weithiau mae’n bosibl na fydd eu chwarae’n gwneud synnwyr i ni fel oedolion ond mae chwarae esgus, chwarae gwirion, chwarae blêr, chwarae gwyllt, chwarae rôl … mae’r rhain i gyd yn brofiadau cynyddu gwytnwch i blant.

Yn ogystal, gall chwarae arwain at greadigedd. Mae’n rhyfeddol gwylio’r hyn y gall plentyn ei wneud gyda hen bapur newydd, Sellotape a phensiliau. Mae creu amser ar gyfer creadigedd yn bwysig pan fyddwn yn treulio cyfnodau hir gartref.

Mae plant wrth eu bodd yn dysgu, creu, profi eu syniadau, adeiladu, chwalu ac adeiladu eto. O’u gadael gyda rhywfaint o ddeunyddiau syml, gall y profiad o greu rhywbeth fod yn werthfawr iawn i blentyn - y profiad o greu rhywbeth gwreiddiol, unigryw sydd wir yn berchen iddyn nhw. 

Diflastod 

Oherwydd natur hollbresennol technoleg fodern, mae bellach yn haws nag erioed i blant gael rhywbeth i’w wneud trwy’r amser.

Yn yr un modd, mae nifer o’r ysgolion yr wy’n gweithio gyda nhw wedi sôn bod rhieni / gofalwyr yn poeni am gadw’u plant yn brysur trwy’r amser. Mae hyn, nid yn unig yn peri straen mawr ar rieni / gofalwyr, mae’n agwedd sydd, o bosibl, ddim yn cydnabod pwysigrwydd diflastod.

Heddiw, mae’n debyg bod gan ddiflastod enw drwg - ei fod yn rhywbeth i’w osgoi a’i fod yn brofiad sy’n gysylltiedig ag anhapusrwydd neu rwystredigaeth.

Rwy’n cofio chwe wythnos faith, ddiddiwedd gwyliau haf o’r ysgol pan oeddwn i’n iau a phan oedd yr ymdeimlad o ddiflastod yn gryf. Ond rwy’n cofio bryd hynny hefyd, syllu allan o’r ffenest a chreu straeon am y bobl oedd yn cerdded heibio, dychmygu brwydrau anferth yn yr awyr rhwng y brain a’r colomennod, cyfansoddi caneuon dwl ac, ymhen hir a hwyr, ddod o hyd i ‘rywbeth i’w wneud’.

Mae diflastod yn gysylltiedig gyda datrys problemau, creadigedd a dychymyg. Yn ein byd cyfoes o brysurdeb diddiwedd, gall diflastod hefyd roi cyfle i blant a phobl ifanc stopio, edrych, gwrando, arsylwi a thalu sylw - profiad sy’n swnio’n debyg iawn i feddwlgarwch - talu sylw i’r ennyd bresennol.

Mae Dan hefyd yn Ddarlithydd ym Mhrifysgol Bryste, yn ddarpar gyd-gadeirydd y Division of Educational and Child Psychology (sy’n rhan o Gymdeithas Seicolegol Prydain).

Cyhoeddwyd yn wreiddiol gan Parkrun fel rhan o gyfres o bedwar blog am hybu lles plant yn ystod y pandemig coronafeirws diolch am adael inni ei rannu ar ein blog ni.