Boncyrs am concyrs Trwy ein ymgyrch Prosiect Chwarae’r Hydref rydym yn mynd yn boncyrs am concyrs! Pam concyrs? Fel rhan o Prosiect Chwarae, rydym eisiau dangos bod yr Hydref yn amser perffaith i fynd allan i chwarae ac archwilio. Un gêm rydym yn canolbwyntio arni yw concyrs. Gan bod iechyd emosiynol a chorfforol mor bwysig i hapusrwydd a datblygiad plentyn, rydym yn canolbwyntio ar chwarae concyrs gan ei bod yn annog plant i fynd allan i gael awyr iach, a’u tynnu oddi wrth sgriniau ... ac wrth gwrs rhoi cyfle i’r gêm fod yn boblogaidd eto! Methu cofio sut i chwarae concyrs? Rydym wedi creu fideo i’ch atgoffa! Chwarae concyrs cam wrth gam: Beth sydd ei angen ar gyfer gêm o concyrs Sut i baratoi am gêm o concyrs Sut i chwarae. A nawr byddwch chi yn barod i frwydro! Sut all ai gymryd rhan? Rydym eisiau gweld chi yn mynd yn boncyrs am concyrs. Tagia ni ar y cyfryngau cymdeithasol – Facebook, Instagram a Twitter – a defnyddia’r hashnod #ProsiectChwarae fel y gallwn ni ei rannu! Mae’n gwefan yn llawn awgrymiadau a chynghorion defnyddiol ar gyfer annog eich plant i fynd allan, chwarae ac archwilio yr hydref yma – o sut i baratoi dy blentyn i chwarae’r tu allan yn ddiogel ac yn hyderus, i sut i ddelio gyda chwarae ymladd a chwarae gwyllt, i syniadau am bethau all eich plentyn chwarae gyda nhw.